Skip to page content

Newyddion 2019

  • Pwyllgor Cyfleoedd a Chyflawniad Myfyrwyr CCAUC
  • Date:  22 Tachwedd 2019
  • Mae CCAUC yn chwilio am ymgeiswyr i’w penodi’n Aelod i gynrychioli ysgolion ar ein Pwyllgor Cyfleoedd a Chyflawniad Myfyrwyr (SOAC). Rydym yn chwilio am aelod uwch o staff o ysgol a chanddi chweched dosbarth, neu o goleg addysg bellach sy’n darparu llwybrau cynnydd i addysg uwch. Un o bwyllgorau Cyngor CCAUC yw SOAC, ac mae’n gweithredu fel gwasanaeth cynghori.

    Cylch gwaith y Pwyllgor yw rhoi cyngor ar gyfleoedd a chyflawniadau myfyrwyr ym maes addysg uwch, gan gynnwys addysg gyfrwng Cymraeg, ehangu mynediad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a sgiliau a chyflogadwyedd, gyda’r nod o sicrhau bod addysg uwch yng Nghymru yn bodloni anghenion a disgwyliadau myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.

    Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn.

    Ni roddir tâl i aelodau'r Pwyllgor Cyfleoedd a Chyflawniad Myfyrwyr. Serch hynny, bydd CCAUC yn eich ad-dalu am unrhyw dreuliau rhesymol a ysgwyddir gennych yn rhinwedd eich dyletswyddau, ac a gofnodir yn briodol, yn unol â'n gweithdrefnau teithio a chynhaliaeth.

    Bydd y penodiad yn para am dymor cychwynnol o hyd at dair blynedd, oni bai y bydd yn cael ei derfynu gan y naill ochr neu'r llall, ac mae posibilrwydd o ailbenodiad am dymor arall.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Rhagfyr 2019.

Wrth sôn am gyhoeddiad yr adroddiad newydd, dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Dyma ddarn hynod bwysig o waith. Rydym yn disgwyl gweld arweinwyr a llywodraethwyr prifysgolion yn ysgogi newid, gan sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o'r ymchwiliad cynhwysfawr hwn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn arwain at gamau gweithredu a gaiff eu gwreiddio yn eu diwylliant sefydliadol. Rhaid iddynt hefyd gael eu hategu gan strategaethau a phrosesau effeithiol er mwyn sicrhau bod addysg uwch yn darparu cyfleoedd cyfartal i bawb.

“Trwy weithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg uwch Cymru a Llywodraeth Cymru, byddwn yn ceisio herio ymddygiadau presennol sy'n annerbyniol ac yn annheg. Rhaid i'r cynnydd yn y maes hwn fod yn gyflym ac yn effeithiol a byddwn yn sicrhau - fel dylanwadwr allweddol ar addysg uwch yng Nghymru - ein bod yn parhau i dynnu sylw at hyn. Byddwn yn defnyddio ein mecanweithiau rheoliadol i ddiogelu myfyrwyr a staff mewn AU i fodloni cyfreithiau cydraddoldeb ac i ragori arnynt.

“Yn y cyfamser, byddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn fanwl, ar ein cyfer ni a darparwyr addysg uwch.

“Yn olaf, hoffem ddiolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am greu'r adroddiad hwn ac rydym yn parhau i ymrwymo i gydweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.”

  • Neges Blog: Shwmae, Su' mae - Tuag at Cymraeg 2050: CCAUC a'r Gymraeg mewn addysg uwch
  • Dyddiad:  14 Hydref 2019
  • Fel siaradwr Cymraeg, mae'n bleser gallu defnyddio'r iaith yn y gwaith, ac rwyf wedi sylwi bod hynny'n datblygu i fod yn arfer cyffredin o fewn CCAUC. Dyna pam rwyf wedi penderfynu dathlu - yn ethos Shwmae Su' mae - y gwaith yr ydym wedi'i gyflawni fel sefydliad i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector addysg uwch.

    Er i Lywodraeth Cymru lansio'r fenter, Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, gall defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd weithiau fod yn her. Fodd bynnag, yn sgil gweithredu Safonau'r Gymraeg ym mis Mawrth 2018, cafodd CCAUC gyfle i ailgadarnhau llawer o'r gwaith da yr oeddem yn ei gyflawni, ac archwilio ffyrdd i gryfhau ein harferion cyfredol. Fel sefydliad, rydym yn dal i wneud y pethau bychain, fel ateb y ffôn yn ddwyieithog, mynd ar gyrsiau 'Cymraeg Gwaith' a gwisgo cortynnau Cymraeg a Dysgwr. Fodd bynnag, mae'r rhain wedi arwain at gynlluniau mwy, fel rhoi cyfle i ymgysylltu â'r cyhoedd, rhanddeiliaid a'r sector addysg uwch fel sefydliad dwyieithog.

    Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers iddo gael ei sefydlu, yn ei fonitro i ddechrau ac erbyn hyn drwy waith partneriaeth agos. Rydym wedi cynorthwyo'r Coleg i fuddsoddi mewn staff a darpariaeth newydd, i ganolbwyntio ar feysydd targed allweddol ac wedi annog pobl i fanteisio ar y dystysgrif sgiliau iaith Cymraeg. Wrth drosglwyddo cyllid y Coleg i Lywodraeth Cymru, rydym yn falch iawn o ffrwyth ein gwaith, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r Coleg i'w alluogi i barhau â'i rôl hollbwysig wrth gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn gweithio'n agos â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Estyn i gefnogi'r Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod dysgu a siarad Cymraeg yn sgìl ynddo ei hun, ac mewn addysg gall agor drysau i lawer o wahanol ffynonellau gwybodaeth a chyfoethogi profiadau addysgol - a newid eich bywyd.

    Mae'n galondid gweld bod nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio cyfran o'u cwrs addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae cynnydd mewn cyfleoedd ac o ran ymwybyddiaeth ymhlith darparwyr addysg uwch wedi cyfrannu'n sylweddol at y cynnydd hwn. Ers 2017, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda darparwyr addysg uwch i ddatblygu gradd-brentisiaethau mewn meysydd â blaenoriaeth. Roedd yn rhaid i'r cynigion hyn gynnwys elfen ddigonol lle gellid cyflwyno'r cyrsiau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

    Gwnaethom hefyd gomisiynu gwaith ymchwil ynghylch sut i gyflwyno gwelliannau pellach i bartneriaethau ystyrlon rhwng addysgwyr, undebau myfyrwyr a myfyrwyr (bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau'n fuan yn 2020!). Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried effaith darpariaeth ddwyieithog a'r modd y mae grwpiau o fyfyrwyr ac addysgwyr yn ymdrin â'r Gymraeg ym myd addysg a thu hwnt. Gobeithiwn y gall hyn roi enghreifftiau inni o arfer da, ac arweiniad ynghylch sut y gallwn hyrwyddo ac annog y gwaith hwn ymhellach yn y dyfodol.

    Yng Nghymru, bydd pob sefydliad yn creu siarter myfyrwyr, sy'n cynnwys cysylltiadau a chyfeiriadau i wybodaeth fanwl am gyrsiau, cymorth i fyfyrwyr a rheoliadau. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n cynnwys gwybodaeth fanwl am ymdriniaeth darparwyr addysg uwch â'r Gymraeg. Byddwn yn monitro'r siarteri'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at wybodaeth ynglŷn â'r hyn y mae eu darparydd addysg uwch yn ei gynnig iddynt o ran y Gymraeg.

    Heddiw, i gyd-daro â'r dathliadau lu a gynhelir ar draws y wlad, rydym wedi lansio ein cyhoeddiad Tuag at Cymraeg 2050: CCAUC a'r Gymraeg mewn addysg uwch, ac yn eich annog i ymuno â ni ar ein taith. Ymlaen â ni!

  • Savanna Jones, Rheolwr Profiad Myfyrwyr, HEFCW
  • Cymhellion newydd i fyfyrwyr o Gymru gwneud eu gradd Meistr yng Nghymru
  • Dyddiad:  03 Medi 2019
  • Bydd bwrsariaeth newydd £4,000 ar gael i bobl dros 60 oed i astudio ar gyfer gradd Meistr yng Nghymru yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20. Nod y grant yw darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr dros 60 oed, nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael yr un cymorth ariannol â myfyrwyr iau oherwydd cyfyngiadau Trysorlys ei Mawrhydi.

    Bydd bwrsariaeth newydd gwerth £2,000 ar gael i raddedigion o bob oed i astudio yng Nghymru ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, cyfeirir at y pynciau hyn yn aml fel pynciau 'STEMM'.

    Bydd bwrsariaeth gwerth £1,000 ar gael  hefyd i ddilyn Gradd Meistr drwy'r Gymraeg. Mae'r fwrsariaeth yn allweddol er mwyn parhau i ddatblygu'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg, sydd yn ei dro yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid o £1.3m i CCAUC i weinyddu'r bwrsarïau drwy ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gymhwystra a sut i wneud cais drwy gysylltu â phrifysgol o'ch dewis chi.
  • Datganiad i'r wasg llawn gan Lywodraeth Cymru
  • Neges blog: Mae'r rhod yn troi - Ymchwil ac arloesi - Gweledigaeth ar gyfer Cymru
  • Dyddiad:  16 Awst 2019
  • Efallai fod dilynwyr CCAUC wedi sylwi ein bod wedi cyhoeddi dogfen yn ddiweddar ac yn cyfeirio'n anffurfiol ati fel "Y Weledigaeth".
  • Mae'n llwybr newydd i CCAUC - gwneud datganiad mor hyderus ynghylch ein gobeithion am y dyfodol - ac mae hi wedi cymryd llawer o amser, llawer o grafu pen ac amynedd i lunio'r ddogfen derfynol (gan gynnwys cryn amser yn trafod ei chlawr sy’n debyg i bêl ddisgo!)
  • Felly pam gwneud hynny?
  • Os ydych chi'n gyfarwydd â'r tirlun ymchwil ac arloesi ledled y DU (ac efallai nad ydych chi), byddwch yn gwybod bod Ymchwil ac Arloesi y DU - UKRI - wedi cael ei sefydlu ym mis Ebrill 2018. Bydd rhai sy'n canlyn polisi Ymchwil ac Arloesi prifysgolion Cymru hefyd yn cofio bod adolygiad yr Athro Graeme Reid o ymchwil ac arloesi a ariennir gan lywodraeth wedi cael ei gyhoeddi y llynedd. Roedd y paratoadau ar gyfer Brexit yn cynyddu ac, ymhlith heriau eraill a oedd eisoes o flaen y DU, yr oedd llu o syniadau ac argymhellion newydd yn cael sylw, gan greu storm berffaith o ddylanwadau yng Nghymru.
  • Ym mis Mai 2018, newidiwyd Cadeirydd ein Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu. Trosglwyddodd yr Athro Syr Robin Williams yr her i'r pwyllgor fanteisio ar y cyfle hwn i'r Cadeirydd newydd, yr Athro Mark E Smith.
  • Dyna gychwyn y broses.
  • Aeth ein pwyllgor rhagddo i gynnal gweithdai a ddeuai â phrifysgolion a rhanddeiliaid allweddol a chydweithwyr eraill, ac eraill a chanddynt ddiddordeb mewn Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru ynghyd i greu darlun o'r hyn yr oeddem am i Gymru anelu ato, a sut y gellid gwireddu hynny.
  • Canlyniad hyn oedd y Weledigaeth.
  • Corff rheoleiddio a chyllido yw CCAUC yn anad dim, ond y mae hefyd yn cefnogi ein sefydliadau addysg uwch ac yn bartner iddynt. Rydym yn dechrau symud ymlaen: o allu cynnig cyllid Ymchwil Ansawdd - yn rhan o system gefnogi ddeuol - i gefnogi ymchwil ac arloesi yng Nghymru, tuag at ymagwedd fwy cynhwysol a chefnogol yn y cyfnod newidiol hwn o'n blaen (gan gynnwys y system gefnogaeth ddeuol o hyd wrth gwrs). Nod y Weledigaeth yw sbarduno'r dychymyg, cydnabod yr heriau a chreu cynllun y gallwn ei gefnogi, a'i gyflawni mewn cydweithrediad â'r sector addysg uwch.
  • Mae'n ymddangos bod y gwaith yn cael ei groesawu ac rydym wedi gwneud cynnydd da wrth geisio cyrraedd ein nodau byrdymor:
  • • Mae Pwyllgor Ymchwil Cymru wedi cael ei sefydlu i ddisodli'r Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu, ac wedi'i ffurfio i fod yn gyson â'r pwyllgor cyfatebol i'r dwyrain o'r ffin, Research England. Y mae hefyd yn anelu i ymgysylltu'n well ar draws y sector Ymchwil ac Arloesi er mwyn cryfhau'r cyfarwyddyd a gaiff ein Cyngor.
  • • Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar gynllun i ailgyflwyno cyllid arloesi i brifysgolion Cymru, a gyflwynir ar ffurf Ymchwil Cymru: Cronfa Arloesi o 2020/21
  • • Mewn ymdrech i ymateb i argymhelliad Reid y dylid cymell darparwyr i ennill arian grant allanol Ymchwil Cymru: Cryfhau'r sylfaen ymchwil mae cyllid, a gafwyd yn sgil arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn golygu y bydd ein blwyddyn gyntaf yn flwyddyn heb ei hail.
  • Fel tîm Ymchwil ac Arloesi cymharol newydd yn CCAUC, rydym yn gobeithio cynnig rhywbeth newydd. Byddai'n dda hefyd cael clywed am eich gobeithion chi o ran Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru, wrth ichi ymuno â ni ar y daith dros y blynyddoedd nesaf.
  • Ac wrth gwrs, cofiwch ddweud wrthym beth ydych chi'n meddwl yw’r llun ar glawr ein Gweledigaeth mewn gwirionedd!
  • Jennifer Evans, Uwch Reolwr Ymchwil, CCAUC
  • Pwyllgor Ymchwil Cymru CCAUC: swyddi gwag i ddau aelod annibynnol
  • Dyddiad:  13 Awst 2019
  • Mae Pwyllgor Ymchwil Cymru (PYC) yn cynghori'r Cyngor ynghylch ei strategaethau ar gyfer ymchwil, arloesi ac ymgysylltu yng Nghymru. Lluniodd PYC Ymchwil ac Arloesi: Y Weledigaeth ar gyfer Cymru sy'n nodi uchelgais CCAUC o ran ymchwil ac arloesi, a'r uchelgais sydd gennym o ran y modd y bydd prifysgolion yn cyfrannu at oresgyn heriau ar raddfa leol, ar raddfa'r DU ac yn rhyngwladol. Fel aelod o PYC, byddwch yn cynghori ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer ariannu, a'r mecanweithiau fydd yn cryfhau ac yn cynnal amgylchedd ymchwil ac arloesi llwyddiannus yng Nghymru. Anogir Aelodau i arwain gweithgorau ar feysydd allweddol sydd o ddiddordeb neu sy'n berthnasol i bolisi, er mwyn cynghori'r Cyngor ar lefel uwch. Bydd eich cyfraniad yn sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf bosib i fanteisio ar ei chryfderau a goresgyn heriau, a’i bod yn arweinydd cydnabyddedig ym maes ymchwil ac arloesi.
  • Mae gennym ddwy swydd wag ar Bwyllgor Ymchwil Cymru er mwyn rhoi safbwynt annibynnol allanol i waith y Pwyllgor:
  • • Arbenigwr mewn ymchwil ac arloesi (academaidd neu ddiwydiannol)
  • • Academydd ar ddechrau gyrfa
  • Caiff yr holl geisiadau eu trin yn yr un modd, a phenodir ar sail teilyngdod.
  • Mwy o wybodaeth
  • Cronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU
  • Dyddiad:  11 Gorffennaf 2019
  • Mae rownd ddiweddaraf Cronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF) yn cynnwys £200m+ i gefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol graddfa fawr ledled y DU. Bydd dwywaith gymaint o arian yn cael ei fuddsoddi eto ym mhob prosiect o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau cyhoeddus. Dyma chweched rownd UKRPIF, yr ail ddyfarniad i Brifysgol Abertawe, a’r trydydd dyfarniad yn gyffredinol i Gymru.
  • Yn ôl Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae’n newyddion ardderchog fod y portffolio lled-ddargludyddion yng Nghymru yn parhau i dyfu, gan gryfhau ein capasiti ymchwil a chynnig cyfleoedd gwirioneddol i gwmnïau sy’n gweithio yng Nghymru gael arloesi. Mae’r dyfarniad hwn yn dangos cryfder ein prosiectau ymchwil a gynhelir ar y cyd â’r diwydiant, ac yn dangos gwerth rhaglenni fel Sêr Cymru. Drwy’r rhaglen honno, a gweledigaeth ac ymrwymiad yr Athro Paul Meredith, bu modd i hyn fod yn bosibl. Mae gweld y gwaith yn datblygu yn brofiad cyffrous.”
  • Neges blog: Adolygu’r Fframwaith Asesu Ansawdd
  • Dyddiad:  05 Mehefin 2019
  • Fe wnes i ysgrifennu’n ddiweddar am adolygu ein cyfarwyddyd Siarter Myfyrwyr – wel, rydyn ni hefyd yn adolygu ein Fframwaith Asesu Ansawdd!
  • Y rheswm am hyn yw am fod cyd-destun addysg uwch yn parhau i newid. Ers i ni gyhoeddi’r fframwaith yn wreiddiol, mae’r Office for Students wedi’i ffurfio, mae’r Cod Ansawdd diwygiedig ar gyfer Addysg Uwch a’r cyfarwyddyd cysylltiedig wedi cael eu cyhoeddi, mae’r ffyrdd mae’r ddarpariaeth ryngwladol yn cael ei hasesu’n cael eu hadolygu, ac mae’r gwaith ar safonau gradd yn gwneud cynnydd, gyda chyhoeddi Dosbarthiadau Graddau’r DU: datganiad o fwriad yn ddiweddar.
  • Rydyn ni’n diwygio’r fframwaith er mwyn adlewyrchu’r datblygiadau hyn, yn ogystal â chyfeirio at ein gweithdrefnau newydd ar gyfer asesu ansawdd addysg.
  • Fel y byddech yn disgwyl efallai, fe wnaeth hyn i ni ystyried agweddau eraill ar y fframwaith, yn benodol y gofynion ar gyfer adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol. Bydd y rhai sydd ar fin comisiynu adolygiad o’r fath yn falch o glywed nad ydyn ni’n ychwanegu llawer, ar wahân i gynnwys cyfeiriadau wedi’u diweddaru at y cod ansawdd a’r dogfennau cysylltiedig.
  • Fodd bynnag, rydym wedi cytuno gyda’r QAA, ar ôl cael comisiwn gan brifysgolion yng Nghymru i gynnal yr adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol gan ddefnyddio’r dull Adolygiad Gwella Ansawdd, nad yw’n gwneud synnwyr iddynt gynnal yr adolygiad hwn yn erbyn pob elfen o’r sylfaen ar gyfer y fframwaith asesu ansawdd, er enghraifft, y cod llywodraethu perthnasol. Felly rydyn ni wedi cynnig ei gwneud yn gliriach ein bod yn disgwyl i adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol ystyried ansawdd a safonau, gan gynnwys y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch, a disgwyliadau ac arferion craidd a chyffredin y Cod Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.
  • Gan nad yw’r newidiadau i’r Fframwaith yn sylweddol, rydyn ni’n cynnal ‘ymgynghoriad meddal’. Mae hynny’n golygu ein bod yn gofyn am safbwyntiau Rhwydwaith Ansawdd Cymru y QAA, Grŵp Cynghori Dysgu ac Addysgu Dirprwy Is Gangellorion Prifysgolion Cymru, y rhwydwaith AU mewn AB, NUS Cymru ac undebau myfyrwyr.
  • Os oes gan unrhyw un arall ddiddordeb mewn gweld y cynigion drafft a chyflwyno sylwadau, cysylltwch â mi ar cliona.oneill@hefcw.ac.uk cyn 12 Mehefin. Rydym yn gobeithio cael y cyfarwyddyd terfynol wedi’i gymeradwyo a’i gyhoeddi erbyn mis Gorffennaf 2019.
  • Cliona O'Neill, Pennaeth Profiad Myfyrwyr, CCAUC
  • Grwpiau addysg uwch yn tanlinellu ymrwymiad i safonau academaidd teg a thryloyw
  • Dyddiad:  20 Mai 2019
  • Mae Pwyllgor Sefydlog y DU ar gyfer Asesu Ansawdd (UKSCQA) wedi cyhoeddi ei Ddatganiad o Fwriad i sicrhau safonau academaidd tryloyw, cyson a theg mewn addysg uwch yn y DU.
  • Mae’r Datganiad, sy’n amlinellu ymrwymiad addysg uwch i warchod gwerth graddau’r DU, wedi cael ei lofnodi gan gyrff sy’n cynrychioli’r sector, gan gynnwys Prifysgolion Cymru, a’i gymeradwyo gan yr UKSCQA, sy’n cynnwys darparwyr a reoleiddir, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyrff cyllido a rheoleiddio fel CCAUC.
  • Mae’r Datganiad hefyd yn cynnwys sicrwydd y dylai cymwysterau gael eu seilio ar feini prawf clir sy’n dangos llwyddiant academaidd, a bod rhaid i sefydliadau amrywiol ddangos arferion academaidd cymaradwy er mwyn gwarchod cynaliadwyedd y system o ddosbarthiadau graddau.
  • Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Rydyn ni’n cefnogi’r ymrwymiadau yn y Datganiad a’r camau mae darparwyr yn eu cymryd er mwyn sicrhau tryloywder a thegwch. Ein prif ystyriaeth ni yw sicrhau ansawdd addysg uwch, a chanlyniadau addysg uwch, er lles myfyrwyr. Rydyn ni’n cydnabod bod myfyrwyr wedi gweithio’n galed am eu cymwysterau ac ni allwn wneud penderfyniadau cyffredinol am gyflawniad unigolyn yn seiliedig ar y llwybr cynyddol sydd i’w weld mewn graddau sefydliadol. Fodd bynnag, rhaid i ni gynnal hyder yng ngwerth graddau’r DU ac mae’r datganiad hwn yn gam pwysig er mwyn sicrhau cysondeb yn nosbarthiadau graddau.”
  • Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Rwy’n croesawu cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU i warantu tryloywder a thegwch wrth ddyfarnu cymwysterau. Mae cysondeb yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd i fyfyrwyr bod y graddau maen nhw wedi gweithio mor galed i’w hennill yn cael eu gwerthfawrogi’n briodol gan brifysgolion, cyflogwyr yn y dyfodol a’u cydweithwyr, ac yn cael y parch maen nhw’n ei lawn haeddu.”
  • Datganiad o Fwriad
  • Neges blog: Gair am siarteri myfyrwyr
  • Dyddiad:  08 Mai 2019
  • Rydyn ni wrthi’n diweddaru ein cyfarwyddyd ar siarteri myfyrwyr. Rydyn ni’n gwneud hyn i integreiddio lles ac iechyd yn y siarteri, oherwydd nid oedd yn ymddangos yn synhwyrol i sefydliadau ddatblygu siarteri iechyd meddwl ar wahân i’r siarteri profiad myfyrwyr.
  • Rydyn ni’n gweld ychwanegu lles ac iechyd fel hyn fel cyfle i adolygu’r canllawiau siarteri myfyrwyr yn ehangach, gan fod risg o barhau i ychwanegu gofynion newydd heb dynnu unrhyw beth i ffwrdd – gan arwain at restr siopa hir iawn!
  • Buom yn gweithio ar y cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru gyda grŵp gorchwyl a gorffen, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector, arbenigwyr iechyd meddwl a chynrychiolwyr y myfyrwyr, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu help yn dylanwadu ar y cynigion.
  • Mae’r cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru’n cynnig y dylai’r siarteri gynnwys datganiad ar yr ymrwymiad sefydliadol i les ac iechyd myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, ac y dylent gysylltu â strategaethau cysylltiedig a allai effeithio ar y maes hwn – er enghraifft, yn gysylltiedig â diogelu.
  • Mae’r newidiadau eraill rydyn ni’n eu cynnig yn cynnwys esbonio nad yw siarter y myfyrwyr yn ddogfen gyfreithiol, ond ei fod yn datgan disgwyliadau ar y cyd y sefydliadau, y staff a’r undebau myfyrwyr. Hefyd rydyn ni wedi pwysleisio’r angen am i sefydliadau gyfathrebu’r siarter mewn ffordd hawdd ei deall, a’i addasu’n gyson.
  • Yn olaf, rydyn ni wedi cynnig bod y siarteri’n cynnwys datganiad am yr angen am i’r sefydliad gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, fel y rhai cysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Rydyn ni’n gorfod gwneud y gwaith yma’n gymharol gyflym i roi amser i sefydliadau a’u hundebau myfyrwyr wneud y newidiadau hyn mewn pryd ar gyfer myfyrwyr 2019/20. Felly, ein nod ni yw cyhoeddi’r cyfarwyddyd wedi’i ddiwygio yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Mai 2019 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
  • Os ydych chi eisiau cyfrannu eich safbwyntiau cyn i ni gyhoeddi’r cyfarwyddyd, cysylltwch â mi ar cliona.oneill@hefcw.ac.uk cyn 15 Mai.
  • Cliona O'Neill, Pennaeth Profiad Myfyrwyr, CCAUC
Skip to top of page or to page menu