Diben
Roedd ein Strategaeth Gorfforaethol 2017-2020 yn cynnwys amcan i ‘ddatblygu mesurau ar gyfer monitro perfformiad a darpariaeth darparwyr addysg uwch (AU)’.
Mae’r mesurau cenedlaethol hyn o gymorth inni fonitro darparwyr AU a reoleiddir ac/neu a gyllidir gan CCAUC. Defnyddir y mesurau ar raddfa sefydliadol a chenedlaethol i wahanol ddibenion, gan gynnwys:
- monitro perfformiad y sector addysg uwch yn erbyn meysydd â blaenoriaeth, gan gynnwys adroddiadau blynyddol i’n Cyngor
- monitro perfformiad sefydliadau unigol yn erbyn meysydd â blaenoriaeth, gan gynnwys cyfrannu at asesiadau risg sefydliadol
- cyhoeddi mesurau, rhai ohonynt yn flynyddol, ar raddfa’r sefydliad a’r sector
- cyfrannu at gynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau
- datblygu polisi
Monitro 2018/19
- Mesurau cenedlaethol 2018/19 – ar raddfa sefydliadau
- Mesurau cenedlaethol 2018/19 – ar raddfa’r sector
- Mesurau cenedlaethol 2018/19 – crynodeb
Monitro 2017/18
- Mesurau cenedlaethol 2017/18 – ar raddfa sefydliadau
- Mesurau cenedlaethol 2017/18 – ar raddfa’r sector
- Mesurau cenedlaethol 2017/18 – crynodeb
Bydd mesurau cenedlaethol yn monitro data o 2016/17 ymlaen. Ceir disgrifiad o’r ffynonellau data a ddefnyddiwyd a’r dulliau o’u hechdynnu yn Atodiad J yn ein cylchlythyr diweddaraf ar ofynion data.
Mae’r mesurau hyn yn disodli’r targedau a amlinellwyd yn ein Strategaeth Gorfforaethol 2013-2017 a oedd yn monitro data ar gyfer y blynyddoedd 2011/12 hyd 2017/18.
Data cod post a ddefnyddir i gyfri’r mesurau cenedlaethol ehangu mynediad.