Rydym yn defnyddio data sy’n ymwneud â chodau post myfyriwr i fonitro mynediad i addysg uwch ymhlith grwpiau cyfranogiad isel, ac i gyfrifo peth o’n cyllid.
Data cod post a ddefnyddir mewn mesurau cenedlaethol a dulliau cyllido
Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestrau o godau post a ddefnyddir i gyfrifo mesur cenedlaethol ehangu mynediad CCAUC ac yn y premiwm mynediad a chadw, y mae’r olaf wedi’i gynnwys yn rhan o’n dull o gyllido addysgu.
Cynhyrchwyd y rhestrau hyn o godau post yng nghronfa ddata codau post CCAUC sy’n deillio o ddata Pwynt Cod yr Arolwg Ordnans. Mae’n bosibl na fydd rhestrau o godau post o ffynonellau eraill yn cyfateb yn union oherwydd oedran, ffynhonnell a’r dull o fapio’r codau ag ardaloedd daearyddol o ddiddordeb.
Mesurau cenedlaethol – ehangu mynediad
Isod ceir ffeiliau csv sy’n cynnwys rhestrau o godau post a ddefnyddir i fonitro’r mesur cenedlaethol ar gyfer ehangu mynediad. Y flwyddyn ar ddiwedd yr enw ffeil yw blwyddyn data cofnodion myfyrwyr HESA a ddefnyddiwyd yn erbyn y codau post.
- Codau post ehangu mynediad i’w defnyddio ym mesurau cenedlaethol 2019/20
- Codau post ehangu mynediad i’w defnyddio ym mesurau cenedlaethol 2018/19
- Codau post ehangu mynediad i’w defnyddio ym mesurau cenedlaethol 2017/18
Mae’r ffeil yn cynnwys y cod post ac un maes chwilio, WIMD2014_q. Os nodir WIMD2014_q=1 caiff y cod post ei gyfrif yng nghwintel isaf yr ardaloedd a ddiffinnir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Os nodir WIMD2014_q=2 caiff y cod post ei gyfrif yn y cwintel isaf ond un yr ardaloedd a ddiffinnir gan y Fynegai.
Ceir mwy o wybodaeth am fesurau cenedlaethol ar ein gwefan.
Ceir mwy o wybodaeth am ein dull o gyfrifo’r mesur cenedlaethol ehangu mynediad yn Atodiad J o’n cylchlythyr ar y gofynion data diweddaraf (W20/30HE).
Codau post cyfranogiad isel ac ehangu mynediad
Isod ceir ffeiliau csv sy’n cynnwys rhestrau o godau post a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r premiwm mynediad a chadw (cyllid ar gyfer 2019/20, 2020/21 a 2021/22). Y flwyddyn ar ddiwedd yr enw ffeil yw blwyddyn data cofnodion myfyrwyr HESA a ddefnyddiwyd yn erbyn y codau post.
- Codau post cyfranogiad isel sy’n gymwys i dderbyn cyllid mynediad a chadw 2019/20
- Codau post cyfranogiad isel sy’n gymwys i dderbyn cyllid mynediad a chadw 2018/19
- Codau post cyfranogiad isel sy’n gymwys i dderbyn cyllid mynediad a chadw 2017/18
- Codau post ehangu mynediad sy’n gymwys i dderbyn cyllid mynediad a chadw 2019/20
- Codau post ehangu mynediad sy’n gymwys i dderbyn cyllid mynediad a chadw 2018/19
- Codau post ehangu mynediad sy’n gymwys i dderbyn cyllid mynediad a chadw 2017/18
Mae’r ffeil codau post cyfranogiad isel yn cynnwys codau post a gyfrifir mewn ardaloedd lle mae’r cyfranogiad yn isel o ran myfyrwyr rhan-amser. Yr ardaloedd lle ceir cyfranogiad isel o ran myfyrwyr rhan-amser yw’r ddau gwintel isaf o ardaloedd, fel y’u diffinnir y ôl cyfran yr oedolion oed gwaith a chanddynt gymwysterau lefel AU, fel y mesurwyd drwy ddata Cyfrifiad 2001.
Mae’r ffeil codau post ehangu mynediad yn cynnwys codau post a gaiff eu cyfrif mewn Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben a data Cyfrifiad 2001 wedi dyddio, ond byddwn yn dal i ddefnyddio’r data hyn nes i’r dull cyllido gael ei newid.
Ceir mwy o wybodaeth ynghylch y premiwm mynediad a chadw, a’n dyraniadau cyllid yn fwy cyffredinol, ar ein gwefan ac yn ein cylchlythyr diweddaraf ar ddyrannu cyllid (W20/20HE).
Ceir mwy o wybodaeth am y ffynonellau data a ddefnyddir gennym a’r modd yr ydym yn eu defnyddio yn ein cylchlythyr diweddaraf ar ofynion data (W20/30HE).
Ar gyfer codau post a ddefnyddir gyda data hŷn, gan gynnwys gyda thargedau ein Strategaeth Gorfforaethol, anfonwch e-bost i hestats@hefcw.ac.uk.
Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata (2020)
Yn cynnwys data’r Post Brenhinol © Hawlfraint y Post Brenhinol a Hawl Cronfa Ddata (2020)
Yn cynnwys data Ystadegau Cenedlaethol © Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata (2020)
Ceir rhyddid i ddefnyddio OpenData yr Arolwg Ordnans o dan Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).