Dim ond sefydliadau gyda dynodiad awtomatig neu ddynodiad penodol fydd â’u cyrsiau’n gymwys ar gyfer cefnogaeth myfyrwyr.
Dynodiad awtomatig
Bydd cyrsiau addysg uwch llawn amser sefydliadau y bydd CCAUC wedi cymeradwyo eu cynlluniau ffioedd a mynediad yn cael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr.
Mae’r trefniadau ar gyfer cyrsiau rhan-amser yn wahanol. Un o’r gofynion ar gyfer dynodi cwrs rhan-amser yn awtomatig yw bod yn rhaid iddo gael ei ddarparu gan sefydliad addysgol sy’n cael ei ariannu gan y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth am gynlluniau ffioedd a mynediad, cysylltwch â cyngorrheoleiddio@hefcw.ac.uk.
Dynodiad penodol
Ar 1 Ebrill 2018, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros reoli’r broses dynodi cwrs penodol yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i CCAUC.
Bydd yn rhaid i sefydliadau sydd eisiau dynodi eu cyrsiau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr fesul achos wneud cais trwy CCAUC bellach.
Rôl CCAUC mewn rheoli’r broses ddynodi benodol yw cyflawni’r swyddogaethau sy’n ymwneud â Rheoliad 5 (8) Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017 a Rheoliad 8 (2) Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018, ond dim ond cyn belled â gwneud y canlynol:
- Ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan ddarparwyr sy’n ceisio dynodi cwrs penodol
- Asesu’r dystiolaeth ategol gan ddarparwyr, gan ystyried polisi cyfredol Llywodraeth Cymru
- Cyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru ar a ddylid dynodi cyrsiau penodol ar sail y dystiolaeth ategol a dderbyniwyd gan ymgeiswyr
- Cadw rhestr gywir o gyrsiau a ddynodwyd a chysylltu â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr er mwyn sicrhau mai hyn sy’n cael ei adlewyrchu yn yr wybodaeth y mae’n ei chyflwyno i fyfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr
- Datblygu prosesau monitro priodol er mwyn sicrhau bod darparwyr â chyrsiau sydd wedi cael dynodiad penodol yn parhau i fodloni’r meini prawf a nodwyd ym mholisi cyfredol Llywodraeth Cymru
Rydym wedi cyhoeddi dogfennau canllawiau yn ddiweddar ar gyfer y canlynol:
- Darparwyr addysg uwch (AU) sy’n gwneud cais i gyrsiau gael eu dynodi’n benodol i gynorthwyo myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru
- Monitro darparwyr AU sydd â chyrsiau wedi’u dynodi’n benodol ar gyfer dechreuwyr newydd. Mae’r broses hon yn cynnwys cyfle hefyd i ddarparwyr cyfredol ofyn i gael cyrsiau newydd neu gyrsiau mewn lleoliadau newydd sy’n dechrau yn 2021/22 wedi’u dynodi
- Mae angen dynodiad cwrs penodol yng Nghymru ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ysgol-ganolog (HCAY). Mae canllawiau ar gael i ddarparwyr HCAY os ydynt yn dymuno i’w cyrsiau fod wedi’u dynodi yn 2021/22.
Gellir dod o hyd i bolisi Llywodraeth Cymru a rhestr o’r cyrsiau hynny sydd wedi’u dynodi’n benodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â cyngorrheoleiddio@hefcw.ac.uk.