Darparwyr addysg uwch
Mae addysg uwch (AU) yng Nghymru’n cael ei gynnig yn bennaf drwy naw prifysgol, ac mewn nifer o golegau addysg bellach.
Rydym yn rheoleiddio meysydd gan gynnwys: ffioedd israddedig amser llawn myfyrwyr a dderbynnir gan sefydliadau sy’n darparu addysg uwch, ac ansawdd yr addysg a ddarperir gan, ac ar ran, y sefydliadau hynny.
Rydym yn dyrannu cyllid ar gyfer addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn prifysgolion, a chyllidwn rai cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach.
Bydd yr holl sefydliadau a reoleiddir a’r sefydliadau sy’n darparu cyrsiau ar eu rhan yn ddarostyngedig i’n holl bwerau rheoleiddio. Sefydliadau a reoleiddir yw sefydliadau yng Nghymru sy’n elusennau ac sy’n darparu addysg uwch. Bydd yn rhaid i’r holl sefydliadau a reoleiddir gael cynllun mynediad a ffioedd cymeradwy er mwyn gallu codi hyd at yr uchafswm ffi am gyrsiau.
Cyn cymeradwyo cynllun mynediad a ffioedd, bydd byddwn wedi ein bodloni ein hun bod ansawdd addysg y sefydliad a reoleiddir yn ddigonol a’i fod yn hyfyw yn ariannol a bod ganddo drefniadau addas yn eu lle ar gyfer trefnu a rheoli ei faterion ariannol.
Mae rhwymedigaethau sefydliadau a reoleiddir yn cynnwys y canlynol:
- sicrhau nad yw ffioedd cwrs a reoleiddir yn uwch na’r terfyn ffioedd perthnasol
- cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun mynediad a ffioedd cymeradwy
- ystyried cyfarwyddyd CCAUC ar ansawdd
- ystyried cyngor mewn perthynas â darpariaeth sydd, neu sy’n debygol o ddatblygu i fod, yn annigonol o ran ansawdd
- cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a orfodir gan y cod rheolaeth ariannol
Dyma’r sefydliadau (testyn trwm) a reoleiddir yng Nghymru, ac, mewn cronfachau, y sefydliadau sy’n darparu addysg ar ran y sefydliadau a reoleiddir (o dan berthnasoedd masnachfraint yn aml).
- Prifysgol Aberystwyth (Coleg Cambria, Coleg Gwent)
- Prifysgol Bangor (Grŵp Llandrillo Menai)
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Penybont)
- Grŵp Llandrillo Menai
- Grŵp Colegau NPTC
- Prifysgol Abertawe (Coleg Cambria)
- Prifysgol De Cymru (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Penybont, Coleg y Cymoedd, Grŵp NPTC, Y Coleg Merthyr Tudful)
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, Grŵp NPTC, Coleg Gŵyr Abertawe)
- Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (Grŵp Llandrillo Menai, Grŵp NPTC, Barking and Dagenham College)