Rydym yn rheoleiddio lefelau ffïoedd mewn darparwr addysg uwch, yn sicrhau bod fframwaith ar waith i asesu ansawdd addysg uwch, ac yn craffu ar berfformiad darparwr dynodedig.
Mae gan CCAUC ddyletswyddau penodol yn berthnasol i’r canlynol:
monitro cydymffurfiaeth sefydliadau addysg uwch â chynlluniau ffioedd a mynediad
asesu ansawdd addysg
paratoi ac ymgynghori ar Gôd Rheolaeth Ariannol newydd, a monitro cydymffurfiaeth sefydliadau â’r Côd
Mae’n ofynnol i unrhyw sefydliad sy’n dymuno i’w gyrsiau israddedig llawn amser gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr gyflwyno cynllun mynediad a ffioedd i CCAUC.