Dylai darparwyr addysg uwch gyfeirio at y cyfarwyddyd gan Brifysgolion y DU a Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch symudiadau staff a myfyrwyr, digwyddiadau cyhoeddus, cyngor ynghylch teithio, campysau a iechyd a hylendid. Mae Prifysgolion Cymru wedi cadw cysylltiad agos â phrifysgolion Cymru er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at yr holl ddeunyddiau a gwybodaeth berthnasol.
Mae Prifysgolion wedi bod yn hysbysu Prifysgolion Cymru a Phrifysgolion y DU ynghylch y datblygiadau diweddaraf, gan gynnwys mesurau a gymerwyd i symud neu gyfyngu ar symudiadau staff a myfyrwyr.
Mae Prifysgolion Cymru hefyd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd.
Am y diweddaraf o ran iechyd y cyhoedd: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Am y diweddaraf i ddarparwyr addysg uwch: Prifysgolion y DU
Canllawiau ar Covid-19 ar gyfer lleoliadau addysgol
Covid-19: Canllawiau teithio ar gyfer y sector addysg
Byddwn yn diweddaru’r eitem newyddion hon os ceir unrhyw aflonyddwch neu wybodaeth newydd o bwys.