9 Ebrill 2020

Diweddariad am dderbyniadau i brifysgolion: David Blaney, Prif Weithredwr

Bydd recriwtio myfyrwyr israddedig ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd y sector addysg uwch, a bydd y pwysau cystadleuol, yng nghyd-destun y lleihad mewn myfyrwyr rhyngwladol a ragwelir, yn arbennig o ddifrifol.

Credwn ei bod yn bwysig fod yr holl ddarparwyr rheoledig yng Nghymru yn gweithredu er y budd gorau posibl i ymgeiswyr. Yn wir, mae darparwyr yng Nghymru ac o gwmpas gwledydd y DU, yn ogystal â llywodraethau’r DU, yn credu hyn hefyd.

Er bod llywodraethau’r pedair gwlad i gyd yn dangos diddordeb brwd mewn hyn, mae penderfyniadau ynglŷn â derbyniadau yn faterion ar gyfer prifysgolion, ac mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn ymdrin â hyn yn benodol.

Fodd bynnag, pan ddaeth yr amser i adolygu cynigion i ddarpar fyfyrwyr, gwnaethom ni – sef Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – gytuno y byddai’n synhwyrol ac yn briodol cael cyfnod o oedi a myfyrio yng Nghymru, fel y cynigiwyd mewn lleoedd eraill yn y DU.

Cafodd hyn ei weithredu’n gychwynnol fel moratoriwm dros gyfnod o bythefnos ar gynigion diamod oddi wrth brifysgolion. Ar adeg ysgrifennu’r wybodaeth hon, mae hyn wedi cael ei ymestyn yn dilyn cais gan holl lywodraethau’r DU i wasanaeth derbyniadau’r prifysgolion a cholegau, sef UCAS.

Gobeithiwn y bydd oedi ychydig mewn perthynas â chynigion yn rhyddhau ychydig o amser ar gyfer cael eglurhad pellach o ran sut y caiff graddau Safon Uwch eu penderfynu o gwmpas y gwledydd, ac i ddarparu sicrwydd i’r sector addysg uwch ar draws y DU. Gellir parhau i wneud cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau cymwysterau Lefel 3 (Safon Uwch a chyfwerth) a enillwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol.

Mae Universities UK yn bwriadu cynnig pecyn o fesurau i lywodraeth y DU i helpu darparwyr addysg uwch ar draws holl wledydd y DU, er mwyn eu galluogi i ymdopi â’r heriau ariannol difrifol sy’n ganlyniad i’r pandemig. Rwyf hefyd mewn cysylltiad agos â chyfarwyddwr Prifysgolion Cymru mewn perthynas â’r mater hwn, a byddwn ni a Phrifysgolion Cymru yn rhannu gwybodaeth bellach gyda darparwyr wrth iddi ddod i law.

Yn ogystal, rydym ni a chyllidwyr a rheoleiddwyr eraill y DU yn cynnal trafodaethau ag UCAS er mwyn gweld a ellir gwneud unrhyw newidiadau eraill i gylch recriwtio eleni er mwyn sefydlogi’r system. Gallai hyn gynnwys ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ‘gwrthod yn ddiofyn’ (lle y tybir bod darpar fyfyrwyr wedi gwrthod cynnig os na fyddant wedi’i gadarnhau cyn dyddiad cau derbyn UCAS) a chynyddu’r wybodaeth, cyngor a chanllawiau sydd ar gael i ymgeiswyr er mwyn ystyried y ffaith fod gan y rhai sy’n gadael ysgol lai o fynediad i gymorth gyrfaol.

Rwy’n gobeithio y gallwch i gyd gytuno mai dyma yw’r dull mwyaf synhwyrol am y tro. Yn y cyfamser, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn parhau i weithio’n galed, y tu ôl i’r llenni’n aml, ond yn bendant mewn partneriaeth â gwledydd eraill y DU, er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, sefydlogrwydd y cylch recriwtio eleni ac i leihau’r effaith ar flwyddyn academaidd 2020/21 yn fwy cyffredinol.