Rydym wedi defnyddio archwilydd allanol nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â CCAUC na Waters Creative.
Rydym ar ganol archwilio ein gwefan newydd ar hyn o bryd, a gafodd ei lansio ar 18 Medi 2020. Mae unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio yr ydym wedi’u canfod wedi cael eu hychwanegu at ein datganiad hygyrchedd cyfredol.
Mae’r wefan wedi’i phrofi o ran ei chydymffurfiaeth â WCAG 2.1 Lefel A a WCAG 2.1 Lefel AA.
Cynhelir y profion canlynol ar ddetholiad o dudalennau:
- Gwirio awtomataidd ac adolygiad â llaw drwy ddefnyddio offeryn Microsoft Accessibility Insights.
- Defnyddir a chyfeirir at restr wirio POUR, sy’n seiliedig ar argymhellion GDS (Government Digital Service), WCAG, WebAim a Deque er mwyn adolygu pob tudalen â llaw.
- Defnyddir darllenydd sgrin NVDA i gwblhau cyfres gyson o gamau, gan gynnwys gwe-lywio, rhyngweithio, terfynau amser ac adfer ar ôl gwall ar yr holl dudalennau a archwilir.
- Cynhelir yr adolygiadau â llaw ar Liniadur Windows ac Apple iPhone 8.
Bydd y broses wedi’i chwblhau erbyn diwedd mis Medi 2020.