W21/01HE: Consultation on Terms and Conditions of Funding
This consultation attaches Terms and Conditions of Funding.
Byddwn yn dyrannu £171.5 miliwn i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.
Dosberthir cyfran helaeth o’n cyllid yn grantiau bloc i’r sefydliadau, wedi’i ddyrannu yn ôl fformiwlâu, sy’n cymryd amrywiol ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys recriwtio mewn categorïau pwnc academaidd, modd a lefel, a faint o ymchwil o ansawdd da y mae’r sefydliad yn ymgymryd ag ef.
Yn y gwanwyn rydym yn rhoi gwybod i bob darparwr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol eu grant craidd ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Mae sefydliadau yn medru dyrannu’r grant fel y bo’n briodol, cyn belled a ddefnyddir i gefnogi addysgu, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig.
Mae’r cylchlythyr W20/20HE yn cynnwys manylion dyraniadau i sefydliadau unigol ac i’r sector yn ei gyfanrwydd ar gyfer 2020/21. Mae’n cynnwys taliadau premiwm ar gyfer ehangu mynediad, myfyrwyr anabl a chofrestriadau cyrsiau cyfrwng Cymraeg.
Darparwn gyllid ar gyfer ymchwil yn bennaf i gydnabod ac atgyfnerthu ymchwil ragorol trwy ein cyllid ymchwil o safon (QR). Hefyd dyrannwn gyllid i sefydliadau ar gyfer hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Rydym yn ariannu yn rhannol GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith, sef rhaglen a arweinir gan brifysgolion sy’n cynnig cefnogaeth deilwredig a phrofiad gwaith i fyfyrwyr cymwys o dan 25 oed.
Rydym hefyd yn cyllido gweithgareddau a chyrff eraill sydd yn cefnogi addysg uwch, megis iechyd a llesiant, Cymru Fyd-eang a Jisc.
Mae cyllid addysgu yn cynnwys arian ar gyfer pynciau drud a chost uwch, a chyllid premiwm ar gyfer myfyrwyr anabl a myfyrwyr ar gyrsiau sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn 2018 cyllidodd CCAUC dri chynllun i hybu gweithgareddau ymchwil, arloesi ac ymgysylltu ledled Cymru:
Yn 2020, fe wnaethom ni adfer cyllid arloesi ac ymgysylltu ar gyfer sefydliadau addysg uwch:
This consultation attaches Terms and Conditions of Funding.
This circular provides details of 2020-21 allocations for institutions qualifying to receive Higher Education Research Capital funding. This circular is a revised version of W20/17HE
Mae ein dulliau cyllido yn cymryd amrywiol ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys pwnc, modd (amser llawn neu rhan-amser) a lefel (gradd neu ôl-radd), a faint o ymchwil o ansawdd da y mae’r sefydliad yn ymgymryd ag ef.
Gwnaed darpariaeth benodol ar gyfer cyllid cyfalaf dros y dair blynedd ganlynol yn ein llythyr cylch gorchwyl ar gyfer 2018-19. Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu’r cyfalaf sydd ar gael i’w ddyrannu yn 2020-21.