Mae Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y Cynulliad gael Cynllun Cyhoeddi. Rydym ni wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’r Cynllun Cyhoeddi’n amlinellu’r wybodaeth yr ydym yn ymrwymo ein hunain i’w ddarparu i chi.
Diben y Cynllun Cyhoeddi yw amlinellu’r canlynol:
- pa wybodaeth y bwriadwn ei chyhoeddi fel mater o drefn arferol
- sut y cyhoeddir y wybodaeth hon
- a yw’r wybodaeth ar gael yn ddi-dâl, ynteu a godir tâl amdani