22 Mehefin 2020

Sut y gallwn helpu? Coronafeirws a dioddefwyr trais a cham-drin

Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ar bob un ohonom, ac ar bob cymuned yng Nghymru. Mae’r pandemig wedi dangos i ni nad yw bywyd yn fusnes fel arfer, ac i lawer, mae eu heriau arferol yn parhau ac yn chwyddo.

Ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, gall hyn olygu nad yw eu cartref neu gymuned yn lle diogel. Yn y gorffennol, mae’n bosibl y byddai dioddefwyr wedi gallu estyn allan i eraill a dod o hyd i rywfaint o gymorth neu rywle arall i fynd iddo lle roeddent yn teimlo’n ddiogel, gan gynnwys eu prifysgol neu ddarparwr addysg uwch, eu teulu a ffrindiau, neu drwy ddiddordebau neu weithgareddau y tu allan i’r cartref.

Cymorth gan addysg uwch

Mae prifysgolion yng Nghymru yn ymwybodol o’r heriau y mae pobl sy’n wynebu trais, aflonyddu a cham-drin, gan gynnwys cam-drin ar sail anrhydedd yn eu profi, ac maent wedi bod yn ymateb iddynt. Rydym wedi cydweithio’n agos â nhw, a chyda Llywodraeth Cymru, i gynhyrchu canllawiau a rhannu gwybodaeth am gefnogi staff a myfyrwyr, gan gynnwys drwy rannu astudiaethau achos sy’n dangos sut mae prifysgolion yng Nghymru yn cefnogi eu cymunedau. Mae ein gwaith yng Nghymru yn cael ei lywio gan dri adroddiad Changing the Culture sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y DU, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a thrwy ein hymgysylltiad parhaus â thîm trais yn erbyn menywod Llywodraeth Cymru.

Gyda bywydau gwaith a chymdeithasol yn symud ar-lein bellach, rydym yn deall y gallai rhai pobl fod yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth neu aflonyddu drwy blatfformau ar-lein. Gallai’r symudiad o ryngweithiadau wyneb yn wyneb i gadw pellter cymdeithasol ac ymgysylltu ar-lein wneud i bobl deimlo’n fwy unig, ynysig a chynyddu eu problemau iechyd meddwl. Dylai staff a myfyrwyr prifysgolion, fel cyfoedion a chydweithwyr, ystyried lle maent yn sylwi ar newidiadau mewn agweddau a/neu ymddygiad a achosir gan y pandemig neu a waethygir ganddo. Dylai prifysgolion hyrwyddo’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Gall staff a myfyrwyr prifysgolion hefyd gefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol a domestig. Mae’r pecyn cymorth ar gyfer gwylwyr (a’r fersiwn Saesneg) gan Cymorth i Ferched Cymru yn darparu cyngor a gwybodaeth allweddol i unrhyw un a all helpu.

Pa gymorth sydd ar gael?

Ledled Cymru, mae amrediad eang o wasanaethau arbenigol ar gael er mwyn helpu pobl sy’n dioddef aflonyddu, cam-drin domestig a thrais o dan y rheolau aros gartref. Mae’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn gan Lywodraeth Cymru yn wasanaeth 24/7 am ddim ar gyfer pawb sy’n dioddef ac yn goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth i deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr. Mae cymorth ar gael dros y ffôn (Ffôn: 0808 8010 800), drwy neges destun (Ffôn: 078600 77333), drwy sgwrs fyw a hefyd yn dawel os yw dioddefwyr yn methu â siarad. Bwysicaf oll, os oes angen help uniongyrchol, bydd yr heddlu’n ymateb i alwadau argyfwng ‘999 mud’, pan gaiff ’55’ ei wasgu mewn ymateb i’r gweithredwr.

Y mis hwn, cafodd y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n amlygu cymorth drwy’r Hideout, Cymorth i Ferched Cymru a ManKind ymhlith eraill. Mae’n rhaid bod byw a dysgu heb ofn, yn ddiogel a chyda chymorth yn ein cartrefi a’n cymunedau, yn ddisgwyliad sylfaenol ar gyfer staff, myfyrwyr a chymunedau. Mae addysg uwch yng Nghymru’n ymrwymedig i sicrhau hyn nawr, ac yn y dyfodol, gan gynnwys wrth i ni ymadael â chyfyngiadau symud.

Mae’r gymuned addysg uwch yn frwd ei chefnogaeth i ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru fel ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a’i gwaith o hyrwyddo ymgyrchoedd sefydliadol, amlinellu canllawiau a chyfeirio gwybodaeth. Rydym yn gwybod bod y pandemig parhaus wedi cynyddu pob math o drais. Felly mae’n bwysicach fyth ein bod yn diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Savanna Jones, Rheolwr Ehangu Mynediad a Chynhwysiant