14 Hydref 2019

Shwmae, Su’ mae – Tuag at Cymraeg 2050: CCAUC a’r Gymraeg mewn addysg uwch

Fel siaradwr Cymraeg, mae’n bleser gallu defnyddio’r iaith yn y gwaith, ac rwyf wedi sylwi bod hynny’n datblygu i fod yn arfer cyffredin o fewn CCAUC. Dyna pam rwyf wedi penderfynu dathlu – yn ethos Shwmae Su’ mae – y gwaith yr ydym wedi’i gyflawni fel sefydliad i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector addysg uwch.

Er i Lywodraeth Cymru lansio’r fenter, Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, gall defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd weithiau fod yn her. Fodd bynnag, yn sgil gweithredu Safonau’r Gymraeg ym mis Mawrth 2018, cafodd CCAUC gyfle i ailgadarnhau llawer o’r gwaith da yr oeddem yn ei gyflawni, ac archwilio ffyrdd i gryfhau ein harferion cyfredol. Fel sefydliad, rydym yn dal i wneud y pethau bychain, fel ateb y ffôn yn ddwyieithog, mynd ar gyrsiau ‘Cymraeg Gwaith’ a gwisgo cortynnau Cymraeg a Dysgwr. Fodd bynnag, mae’r rhain wedi arwain at gynlluniau mwy, fel rhoi cyfle i ymgysylltu â’r cyhoedd, rhanddeiliaid a’r sector addysg uwch fel sefydliad dwyieithog.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers iddo gael ei sefydlu, yn ei fonitro i ddechrau ac erbyn hyn drwy waith partneriaeth agos. Rydym wedi cynorthwyo’r Coleg i fuddsoddi mewn staff a darpariaeth newydd, i ganolbwyntio ar feysydd targed allweddol ac wedi annog pobl i fanteisio ar y dystysgrif sgiliau iaith Cymraeg. Wrth drosglwyddo cyllid y Coleg i Lywodraeth Cymru, rydym yn falch iawn o ffrwyth ein gwaith, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r Coleg i’w alluogi i barhau â’i rôl hollbwysig wrth gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn gweithio’n agos â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Estyn i gefnogi’r Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod dysgu a siarad Cymraeg yn sgìl ynddo ei hun, ac mewn addysg gall agor drysau i lawer o wahanol ffynonellau gwybodaeth a chyfoethogi profiadau addysgol – a newid eich bywyd.

Mae’n galondid gweld bod nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio cyfran o’u cwrs addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae cynnydd mewn cyfleoedd ac o ran ymwybyddiaeth ymhlith darparwyr addysg uwch wedi cyfrannu’n sylweddol at y cynnydd hwn. Ers 2017, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda darparwyr addysg uwch i ddatblygu gradd-brentisiaethau mewn meysydd â blaenoriaeth. Roedd yn rhaid i’r cynigion hyn gynnwys elfen ddigonol lle gellid cyflwyno’r cyrsiau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Gwnaethom hefyd gomisiynu gwaith ymchwil ynghylch sut i gyflwyno gwelliannau pellach i bartneriaethau ystyrlon rhwng addysgwyr, undebau myfyrwyr a myfyrwyr (bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau’n fuan yn 2020!). Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried effaith darpariaeth ddwyieithog a’r modd y mae grwpiau o fyfyrwyr ac addysgwyr yn ymdrin â’r Gymraeg ym myd addysg a thu hwnt. Gobeithiwn y gall hyn roi enghreifftiau inni o arfer da, ac arweiniad ynghylch sut y gallwn hyrwyddo ac annog y gwaith hwn ymhellach yn y dyfodol.

Yng Nghymru, bydd pob sefydliad yn creu siarter myfyrwyr, sy’n cynnwys cysylltiadau a chyfeiriadau i wybodaeth fanwl am gyrsiau, cymorth i fyfyrwyr a rheoliadau. Yn ogystal â hyn, maen nhw’n cynnwys gwybodaeth fanwl am ymdriniaeth darparwyr addysg uwch â’r Gymraeg. Byddwn yn monitro’r siarteri’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at wybodaeth ynglŷn â’r hyn y mae eu darparydd addysg uwch yn ei gynnig iddynt o ran y Gymraeg.

Heddiw, i gyd-daro â’r dathliadau lu a gynhelir ar draws y wlad, rydym wedi lansio ein cyhoeddiad Tuag at Cymraeg 2050: CCAUC a’r Gymraeg mewn addysg uwch, ac yn eich annog i ymuno â ni ar ein taith. Ymlaen â ni!

Savanna Jones, Rheolwr Profiad Myfyrwyr, HEFCW