1 Medi 2021

Cyllido addysg uwch yng Nghymru – pam, beth a sut?

Rydym yn cyllido sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru, er mwyn iddynt gyflawni amrywiaeth o weithgareddau sydd o fudd cymdeithasol ac economaidd i Gymru.

Mae ein cyllid ar gyfer gweithgarwch addysgu ac ymchwil yn bennaf, ond rydym hefyd yn darparu cyllid i sefydliadau er mwyn cefnogi arloesi ac ymgysylltu, gan gynnwys gweithgarwch cenhadaeth ddinesig, ac i gynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch drwy weithgarwch ehangu mynediad. Caiff y rhan fwyaf o’n cyllid ei ddosbarthu ar ffurf grantiau bloc i sefydliadau, wedi’u dyrannu drwy fformiwlâu. Mae’r rhain yn ystyried amryw o ffactorau, gan gynnwys niferoedd a gaiff eu recriwtio i gategorïau pwnc academaidd, y modd astudio (rhan-amser/amser llawn) a’r lefel (israddedig/ôl-radd), a faint o ymchwil o ansawdd uchel a gyflawnir yn y sefydliad. Eleni rydym yn dyrannu £206.5 miliwn i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Rydyn ni am sicrhau ein bod yn cyllido’r pethau cywir ar y lefel gywir, ac yn y ffordd gywir, felly’n ddiweddar gwnaethom gyhoeddi dau ymgynghoriad – y naill ar gyllid ymchwil a’r llall ar gyllid addysgu.

Mae’r blogbost yma’n trafod cyllid addysgu, ond cewch ragor o wybodaeth am ein hymgynghoriad ar gyllid ymchwil  ar ein gwefan.

Pam nawr?

Rydyn ni wedi cyflwyno newidiadau dros y blynyddoedd i’r ffordd rydyn ni’n cyllido addysgu wrth i flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru newid ac mewn ymateb i ffactorau eraill allanol. Fodd bynnag, mae peth amser wedi mynd heibio ers inni edrych yn gyffredinol ar ein holl ffrydiau cyllido addysgu. Mae rhai dulliau cyllido wedi bod ar waith, ar ryw ffurf neu’i gilydd, ers bron i ugain mlynedd. Er ein bod wedi adolygu elfennau unigol o’n methodoleg cyllido addysgu, mae rhai o’r egwyddorion a ddefnyddir yn sail gennym wedi aros yr un peth ers blynyddoedd, ac mae nifer o ddatblygiadau wedi digwydd y mae angen inni eu hystyried, fel canlyniadau cyfrifiadau, deddfwriaeth berthnasol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r ffaith bod mentrau fel y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben.

Beth ydyn ni’n ei gynllunio?

Mae ein hymgynghoriad cyfredol ar gyllid addysgu yn gofyn ichi fynegi barn ynghylch elfennau penodol o’n dulliau cyllido, yr ydym yn anelu i’w gweithredu ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

Rydym hefyd wedi cynnwys cyfres o gwestiynau yn yr ymgynghoriad ynghylch yr hyn y gallen ni ei wneud yn y dyfodol, ac mae hyn yn rhan allweddol o’n gwaith.

Bydd hyn yn gyfle i adolygu’r sail ar gyfer cyllido ar hyn o bryd, ac ystyried yr hyn y dylem ei gyllido yn y dyfodol, gan gydnabod na fyddwn o bosib yn gallu cyllido pob math o ddarpariaeth fel y byddem yn ei hoffi, am lu o resymau.

Mae newid ei dull cyllido yn broses gymhleth sy’n cymryd amser, a dewiswyd gohirio ein cynlluniau i gynnal adolygiad llawn o drefniadau cyllido yn 2020/21. yn bennaf oherwydd y pandemig. Byddai’n dda iawn gennym gael gweld ystod o ymatebion i’r ymgynghoriad oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid, er mwyn inni allu gwneud penderfyniadau deallus ynghylch ein cynigion cyllido. Rydym am ddeall mwy am y materion y mae angen inni eu hystyried, gan gynnwys materion sy’n deillio o effaith pandemig Covid-19, er mwyn canfod sut y gall cyllid CCAUC wneud y cyfraniad gorau at gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys helpu i adfer yr economi.

Mae’r adroddiad o adolygiad OB3 o ddarpariaeth ran-amser wedi rhoi llawer inni feddwl amdano, gydag arweiniad ar gyllid rhan-amser, yn ogystal ag argymhellion mwy cyffredinol ynghylch sut y gallem weithio gyda sefydliadau i gynyddu a gwella cyfleoedd i fyfyrwyr addysg uwch astudio’n rhan-amser yng Nghymru. Er enghraifft, canfu’r adroddiad ddadl fod cyrsiau wedi’u cynllunio’n arbennig i fod yn rhan-amser yn fwy costus i’w dylunio a’u cyflwyno na chynnwys myfyrwyr rhan-amser o fewn y ddarpariaeth lawnamser sy’n bodoli eisoes. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell y dylai CCAUC ystyried sut y gallai cyllid gael ei alinio’n well yn y dyfodol i gefnogi modelau addysg uwch hyblyg ac wedi’u teilwra’n arbennig fel eu bod yn bodloni anghenion myfyrwyr rhan-amser yn well. Rydym wedi cymryd rhai camau cychwynnol i fynd i’r afael â’r pwynt hwn, ac yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi cylchlythyr er mwyn galw am gynigion am gyllid i ymchwilio i ddarpariaeth microgymwysterau a’i datblygu.

Mae adroddiad dadansoddi data rhan-amser CCAUC yn ddarn hollbwysig o waith rydym wedi’i ddefnyddio yn ein trafodaethau hyd yma, ac a fydd o gymorth i oleuo cam nesaf yr adolygiad. Mae’r adroddiad yn cynnig arsylwadau diddorol ynghylch darpariaeth ran-amser yng Nghymru. Er enghraifft, o blith myfyrwyr a enillodd radd yn 2017/18, nodai’r adroddiad mai cyfran y myfyrwyr amser llawn a enillodd radd dosbarth cyntaf oedd 26%, o gymharu â 24% o fyfyrwyr rhan-amser. Yn achos graddau ail ddosbarth uwch, y gyfran oedd 47% ar gyfer myfyrwyr amser llawn a 32% ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.

Rydym yn monitro datblygiadau yn rhannau eraill o’r DU, a allai effeithio ar ddarparwyr AU yng Nghymru ond y nod yn y pen draw yw datblygu dull newydd o gyllido addysgu addysg uwch yng Nghymru, sy’n helpu i gyflawni amcanion ein Strategaeth Gorfforaethol a’n gweledigaeth am addysg hygyrch a chynhwysol o ansawdd uchel wrth inni symud i’r cyfnod pontio rhwng CCAUC a’r corff ôl-16 newydd, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Ein hymgynghoriad cyfredol yw cam cyntaf yr adolygiad, a byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i’n helpu i ddylunio cynigion pellach ar gyfer y cam nesaf yr ydym yn disgwyl cynnal ymgynghoriad arno yn yr hydref.

Nicola Hunt, Uwch Reolwr Profiad Myfyrwyr