15 Hydref 2020

Addysg uwch mewn byd o Govid: gwneud pethau’n iawn i fyfyrwyr

Thema:

I lawer ohonom, mae mis Mehefin bellach yn teimlo fel amser maith yn ôl. Roedd y DU yn dod drwy don gyntaf pandemig Covid-19. Rywsut neu’i gilydd, roedd myfyrwyr wedi cwblhau eu hastudiaethau ar gyfer y flwyddyn, a phrifysgolion eisoes wedi troi eu golygon at y flwyddyn academaidd oedd i ddod, ac yn ystyried sut i gynnig y profiadau gorau i fyfyrwyr gan ddiogelu rhag Covid.

Ddiwedd mis Mehefin, anfonwyd gwybodaeth gennym at ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru am ddiogelu defnyddwyr, disgwyliadau myfyrwyr ac ansawdd. Mynegwyd yn glir y byddai angen i fyfyrwyr, a darpar fyfyrwyr, gael mynediad at gymaint o wybodaeth ag a oedd yn bosibl.

Roeddem hefyd yn glir y byddai disgwyliadau myfyrwyr yn esblygu dros amser: byddai angen i ddarparwyr reoli’r disgwyliadau hyn drwy gydol y flwyddyn, ac roedd hynny’n cynnwys ymgynghori â’u myfyrwyr a darparu gwybodaeth reolaidd iddynt. Dywedodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) y dylai prifysgolion osgoi addo gormod a siomi’r myfyrwyr, ac y dylent, hyd y bo modd, gyfleu’n glir wrthynt yr hyn y gallent ei ddisgwyl.

Mae hi’n hydref bellach, ac wrth i ail don o Covid nesáu, mae’r her o sicrhau profiad dysgu sy’n dda, yn ysgogol ond yn ddiogel yn amlwg i bawb.

Yn amlwg, mae mynd i ffwrdd i brifysgol hefyd yn golygu llawer mwy na’r profiad academaidd. Mae’n rhaid taro cydbwysedd rhwng profiadau cymdeithasol sy’n cyfoethogi bywyd a gysylltir fel arfer â bywyd y brifysgol a iechyd a llesiant myfyrwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach y maent yn rhan ohoni.

Mae angen inni hefyd gofio nad is-raddedig 18 oed amser-llawn sy’n ‘byw oddi cartref’ yw pob myfyriwr. Gall myfyrwyr fod y rhan-amser, yn cymudo, neu’n ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu neu gyflogaeth. Mae undebau myfyrwyr yn rhoi cefnogaeth bwysig i’r holl fyfyrwyr y maent yn eu cynrychioli.

Mae’n anodd taro cydbwysedd rhwng profiad “normal” yn y brifysgol ac ymddygiad diogel, yn enwedig gan fod y cyfyngiadau a orfodir yn sgil Covid yn newid o ddydd i ddydd bron iawn.

Rydyn ni yn CCAUC yn gwybod bod prifysgolion yng Nghymru wedi ymdrechu i’r eithaf i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad mor dda ag sy’n bosibl – gan ddechrau gyda digwyddiadau croesawu a chymdeithasol a chymorth iechyd meddwl ar-lein – tra’n sicrhau bod myfyrwyr a’r staff yn cael eu cadw’n ddiogel. Mae hon yn sefyllfa ddeinamig, ac maent yn parhau i weithio’n galed, ac i fuddsoddi symiau sylweddol o arian, er mwyn ymateb i’r amgylchiadau sy’n newid yn barhaus.

Wrth gwrs, ceir contractau cyfreithiol rhwng darparwyr addysg uwch a myfyrwyr (er enghraifft, yn gysylltiedig â llety a gynhelir gan brifysgolion), yn ogystal â siarteri myfyrwyr a gofynion rheoleiddio (er enghraifft, yn gysylltiedig ag ansawdd). Fodd bynnag, ceir hefyd yr hyn a allai gael ei ddisgrifio fel “contract seicolegol”, neu bartneriaeth, lle bydd myfyrwyr yn trafod eu pryderon â darparwyr; a bydd darparwyr yn gwneud popeth rhesymol o fewn eu gallu i gefnogi myfyrwyr ac i ddatrys unrhyw beth sy’n mynd o chwith. Mae hyn hefyd yn annog darparwyr i helpu myfyrwyr – fel aelodau o brifysgolion – i ddeall a chydymdeimlo â’r heriau digynsail y mae darparwyr yn ymdopi â nhw, a’r darparwyr hwythau i ddeall a chydymdeimlo â’r myfyrwyr.

Bydd myfyrwyr wedi deall bod profiad eleni o’r brifysgol yn wahanol. Am eu bod yn gwybod hynny wrth ddod i’r brifysgol, maent wedi ymroi i wneud y gorau o’r cyfleoedd y byddant yn eu cael ym myd rhyfedd Covid. Partneriaeth yw addysg prifysgol, lle mae angen ymgysylltiad ac ymrwymiad gweithredol a ran y myfyriwr a’r darparydd. Mae ennill lle mewn addysg uwch yn golygu ennill cyfle; nid trafodyn masnachol syml mohono. Mae’n rhaid i sefydliadau drefnu darpariaeth a chefnogaeth briodol, wrth gwrs, a chyfrifoldeb myfyrwyr yw gwneud y mwyaf o’r hyn sydd ar gael.

Er hynny, gall pethau weithiau fynd o chwith. Os nad yw’r profiad a ddarperir gan brifysgol yn cyd-fynd â’r hyn a addawyd, mae’n berffaith resymol i fyfyrwyr godi materion. Mae’r ffordd y maen nhw’n gwneud hynny’n bwysig, fodd bynnag.

Bu cynnwrf mawr yn y cyfryngau’n ddiweddar, wrth iddynt geisio creu straeon am ddiffyg gwerth am arian a’r posibilrwydd o ostwng ac ad-dalu ffioedd. Roedd hyn yn aml yn seiliedig ar gyfrifiadau ariannol gor-syml yn gysylltiedig ag oriau wyneb yn wyneb. Yr hinsawdd yr ydym yn ceisio’i chreu yng Nghymru yw hinsawdd o gyd-ddealltwriaeth a chefnogaeth. Rydyn ni a Llywodraeth Cymru’n sylweddoli, er enghraifft, fod gan fyfyrwyr ddau gartref yn aml – y naill yn eu prifysgol a’r llall yn gartref mwy parhaol – ac y byddant am symud rhwng y naill le a’r llall, fel oedolion mewn cymdeithas rydd, mewn modd sy’n ddiogel o safbwynt Covid. Yn amodol ar gyfyngiadau symud lleol, mae hynny’n ymddangos i fod yn hollol resymol. Pan fydd pethau’n mynd o chwith, gwelwn fod myfyrwyr yn tueddu i ddeall y sefyllfa yn hytrach na mynd i gyfraith, ar yr amod yr ymdrinnir ag unrhyw bryderon dilys sydd ganddynt yn brydlon.

Gallai adegau godi lle bydd prifysgolion, er gwaethaf eu hymdrechion, yn methu i’r fath raddau fel y gallai fod yn briodol mynegi cwyn wrth Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol, neu gynnig ad-daliad rhannol neu lawn. Er hynny, nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr am gael eu harian yn ôl – maen nhw am weld y problemau’n cael eu datrys a’u haddysg yn parhau’n foddhaol. Mae mantais i gynnal y sefyllfa hon. Os yw myfyrwyr yn cael eu hannog i ofyn am ad-daliadau, bydd hynny’n cynyddu’r heriau ariannol a wynebir gan brifysgolion, ac yn ei gwneud hi’n anoddach i ddarparu profiad da i fyfyrwyr. Y ffordd orau y gellir sicrhau’r canlyniad hwnnw yw hysbysu tîm y cwrs, cynrychiolwyr y cwrs neu undeb myfyrwyr y brifysgol am unrhyw broblemau cyn gynted ag sy’n bosibl. Os yw prifysgolion yn gwybod am bethau sy’n mynd o chwith, byddant yn gallu eu datrys, yn amodol ar gyfyngiadau Covid.

Yn ogystal â’n gweithgareddau sicrhau ansawdd arferol gyda darparwyr, byddwn yn ymgysylltu’n rheolaidd ag undebau’r myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru, yn ogystal ag UMC Cymru, i gadw llygad ar y sefyllfa. Byddwn yn ymgysylltu ymhellach â’r prifysgolion os cawn wybod am broblemau sydd heb eu datrys.

Yn y cyfamser, mae angen inni gamu’n ôl a chydnabod ymdrechion aruthrol myfyrwyr a staff sy’n gwneud eu gorau glas i wneud i 2020/21 weithio, a’r modd y mae sefydliadau addysg uwch yn ymdrechu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddosbarth 2020, a hynny mewn amgylchiadau unigryw.

David Blaney

Prif Weithredwr