13 Rhagfyr 2019

Addysg uwch a phensiynau

Wrth i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ddechrau cyhoeddi eu datganiadau ariannol ar gyfer 2018/19, mae David Blaney yn esbonio pam mae nifer ohonynt yn adrodd diffygion ariannol.

Nid yw’r diffygion mawr a adroddwyd yn natganiadau ariannol 2018/19 nifer o sefydliadau addysg uwch (AU) yng Nghymru yn adlewyrchu argyfwng yn eu perfformiad gweithredu. Yn hytrach, maent yn bennaf oherwydd ffioedd pensiwn untro ar gyfer costau i’w talu yn y dyfodol y mae’n rhaid eu hadlewyrchu fel costau gweithredu yn natganiadau ariannol sefydliadau addysg uwch. Mae’r ffioedd pensiwn hyn yn effeithio ar lawer o sefydliadau addysg uwch y DU yn 2018/19 ac nid ydynt yn unigryw i sefydliadau addysg uwch Cymru.

Ceir amrywiadau o ran y math o fuddion pensiwn y mae staff AU sydd wedi ymddeol yn eu derbyn, a’r ffordd y caiff y cynlluniau pensiwn eu rheoli, eu hariannu a’u cyfrifyddu yn natganiadau ariannol y sefydliadau addysg uwch. Mae’r ffordd y cyflwynir costau pensiwn mewn datganiadau ariannol yn amrywio rhwng cynlluniau, gan wneud goblygiadau ariannol pensiynau yn llai cymaradwy rhwng sefydliadau AU.

Mae gan lawer yr hyn a elwir yn gynlluniau ‘buddion wedi’u diffinio a ariennir’. Rheolir y cynlluniau hyn gan ymddiriedolwyr ac maent yn cynnwys buddsoddiadau gan gyflogeion a chyflogwyr, a’r nod yw sicrhau’r enillion mwyaf posibl o fuddsoddiad yn y cynllun er mwyn talu costau taliadau pensiwn i gyflogeion sydd wedi ymddeol.

Mae’r cynlluniau hyn yn risg uwch i gyflogwyr yn nodweddiadol, gan fod eu cynaliadwyedd ariannol yn dibynnu ar sicrhau bod gan y cynllun ddigon o incwm ac asedau i fodloni’r rhwymedigaeth bresennol ac a ragwelir yn y dyfodol ar gyfer taliadau pensiwn i gyflogeion sydd wedi ymddeol. Yn unol â hyn, i wneud yn siŵr bod cynlluniau o’r fath ar y trywydd iawn i ennill incwm digonol i fodloni’r rhwymedigaethau hyn, mae’n rhaid bod yr ymddiriedolwyr yn trefnu prisiad ffurfiol, a elwir yn brisiad actiwaraidd, o’r cynllun, unwaith bob rhyw dair blynedd fel rheol. Mae prisiadau cynlluniau yn sensitif iawn i newidiadau i ystold o ddybiaethau, gan gynnwys enillion o fuddsoddiad, incwm o gyfraniadau a disgwyliad oes y rhai sy’n derbyn pensiwn.

Os bydd y prisiad hwn yn dangos bod y cynllun mewn diffyg, gyda mwy o rwymedigaethau nag asedau, mae angen lefel uwch o gyfraniadau yn y dyfodol i fodloni rhwymedigaethau’r cynllun. Dyma’r achos ar hyn o bryd gyda Chynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS).

Mae’r diffyg yng nghynllun yr USS yn golygu y bydd yn rhaid i sefydliadau AU wneud cyfraniadau ychwanegol at y cynllun – i ddileu diffyg y cynllun, yn ogystal â thalu cyfraniadau uwch yn y blynyddoedd i ddod.

Er y bydd y taliadau arian parod ar gyfer lleihau’r diffyg yn cael eu gwasgaru dros y 10 mlynedd nesaf o leiaf, mae’r ffordd y mae’n rhaid cyflwyno’r costau pensiwn darpariaeth diffyg hyn mewn datganiadau ariannol (yng nghyfrifon ‘incwm a gwariant’ sefydliadau addysg uwch) yn golygu y dangosir y cynnydd yn narpariaeth diffyg pensiynau fel cost weithredu sylweddol yn 2018/19.

Y costau pensiwn sylweddol hyn sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r colledion gweithredu sy’n cael eu hadrodd gan sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2018/19. Gan y bydd y costau pensiwn hyn yn dod yn daladwy yn y blynyddoedd i ddod yn unig, nid ydynt yn adlewyrchu costau gweithredu blynyddol sylfaenol a pherfformiad sefydliadau – ac felly ni ddylid eu dehongli felly.

Os hoffech gael rhagor o fanylion am yr amrywiaeth o gynlluniau penswirn sydd gan prifysgolion, a’u heffaith ar eu datganiadau ariannol, rydym wedi paratoi nodyn briffio hwy.