Darparwn amrywiaeth eang o wybodaeth yn reolaidd, gan gynnwys drwy cylchlythyrau, adroddiadau, papurau’r Cyngor, dogfennau ymgynghori a datganiadau i’r wasg. Gellir cyrchu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth hon drwy’r wefan hon. Hefyd darparwn amrywiaeth o wybodaeth at ddefnydd y sector addysg uwch, cyrff cyllido eraill, rhanddeiliaid a staff fel rhan o’n prosesau gweinyddol arferol.
Hawl i weld gwybodaeth
Mae ein polisi Hawl i Weld Gwybodaeth yn cynnwys:
- yr egwyddorion sy’n llywio ein hymagwedd at fod yn agored
- yr egwyddorion a gymhwyswn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ei darparu ar gais
- o dan ba amgylchiadau y gallwn ymatal rhag rhoi gwybodaeth
Mae’r Polisi Hawl i Weld Gwybodaeth hefyd yn manylu ar sut i ofyn am wybodaeth a gedwir gan CCAUC.
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i’ch cais am wybodaeth, cewch ysgrifennu atom i ofyn i ni gynnal adolygiad mewnol yn unol â’n Trefn Apelio Ceisiadau am Wybodaeth.
Cynllun Cyhoeddi
Mae ein Cynllun Cyhoeddi, yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yn manylu ar:
- y wybodaeth a gyhoeddwn neu y bwriadwn ei chyhoeddi
- sut y caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi
- a yw’r wybodaeth ar gael yn ddi-dâl neu am dâl.
Mae’r Cynllun yn dwyn ynghyd y gwahanol fathau o wybodaeth a gynhyrchir gan CCAUC mewn ffordd strwythuredig. Mae’n cynnwys meysydd topig cyffredinol sy’n adlewyrchu ein swyddogaethau. Mae’r meysydd topig hyn wedi’u rhannu’n ddosbarthiadau o wybodaeth yr ydym yn ymgymryd i’w cyhoeddi.
Ceisiadau am Wybodaeth
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych chi’n chwilio amdani drwy ddefnyddio ein Cynllun Cyhoeddi, efallai yr hoffech gyflwyno cais am wybodaeth. O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid i ysgreifennu i ni i geisio am wybodaeth. Byddwch cystal â chyfeirio pob cais am wybodaeth i:
Ysgrifennydd y Cyngor
CCAUC
Tŷ Afon
Ffordd Bedwas
Bedwas
Caerffili
CF83 8WT
Rydym yn cydnabod pob cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth sy’n cael ei dderbyn. Os na dderbyniwch ebost i gydnabod eich cais o fewn 3 diwrnod, cysylltwch â’r Ysgrifennydd y Cyngor ar 029 2085 9665.