Gweithio gyda phartneriaid
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o gyrff partner yng Nghymru a’r DU er mwyn cyflawni ein hamcanion a bodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae rhai o’r partneriaethau hyn yn cael eu ffurfioli gyda Memorandwm o Ddealltwriaeth sy’n sefydlu disgwyliadau’r naill bartner a’r llall.
Rydym yn cydweithio â chyrff y tu allan i Gymru, megis Adran Economi Gogledd Iwerddon (DfENI), Cyngor Cyllido’r Alban, Research England, a’r Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) i ddarparu cyllid a pholisïau ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sy’n asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.
Mae’r cyrff partner yn cynnwys:
- Jisc, sydd yn darparu datrysiadau digidol i addysg ac ymchwil yn y DU.
- Advance HE / Ymlaen AU, sydd yn cefnogi prifysgolion a cholegau i greu diwylliant cynhwysol sy’n gwerthfawrogi manteision amrywiaeth ac yn hybu rhagoriaeth mewn addysg uwch.
- Estyn, sef yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant.
- Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), sydd yn gweithio’n agos ag amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod ansawdd a safonau academaidd yn cael eu cynnal yn sefydliadau.
- Y Comisiwn Elusennau, sydd yn cofrestru a rheoleiddio elusennau yng Nghymru ac yn Lloegr, i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cefnogi elusennau’n hyderus.
- Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sydd yn sbarduno arferion gorau a chaffael ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Prifysgolion Cymru, sydd yn cynrychioli buddiannau prifysgolion.
- Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) Cymru, sefydliad agored sy’n gweithio mewn partneriaeth ag undebau myfyrwyr ac yn hyrwyddo myfyrwyr i lunio dyfodol addysg.
- Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer AU (OIA), sydd yn gorff annibynnol sydd wedi’i sefydlu i adolygu cwynion myfyrwyr yn erbyn darparwyr addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr.
- Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), sef y corff rheoleiddio annibynnol yng Nghymru ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir, athrawon addysg bellach a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau AB.
- Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn gweithio gyda phrifysgolion a cholegau i gynyddu, datblygu, ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg.
- Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), sy’n dwyn ynghyd y saith cyngor ymchwil disgyblu, Research England, ac Innovate UK; ac sy’n buddsoddi mewn ymchwilwyr, busnesau, prifysgolion, cyrff cyhoeddus ac elusennau i gefnogi system ymchwil ac arloesi ragorol ledled y DU.