Rydym yn rheoleiddio ac yn darparu cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, ac yn helpu i roi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch ar waith.
Mae cyrff rheoli yn sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn cydymffurfio ag arferion gorau, yn gosod cyfeiriad strategol eu prifysgolion ac yn monitro eu perfformiad.
Ein nod ni yw helpu prifysgolion a cholegau i gynnig y profiad gorau posib i fyfyrwyr addysg uwch yng Nghymru. Nid ydym yn cynnig bwrsarïau neu grantiau i fyfyrwyr neu brosiectau yn uniongyrchol.
Rydym ni, ynghyd â Phrifysgolion Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi bod yn ymgysylltu ac yn gweithio â darparwyr addysg uwch i drafod effaith y pandemig ar eu sefydliad, eu staff a’u myfyrwyr.
Addysg uwch i’r genedl: ymwreiddio sgiliau a chyflogadwyedd
Dim ond tair ffordd y mae prifysgolion yn helpu myfyrwyr i ddod yn fwy cyflogadwy yw profiad gwaith wedi’i deilwra ar gyfer myfyrwyr anabl, interniaethau rhithwir, a graddedigion sy’n mentora myfyrwyr.
Mae darparwyr addysg uwch yng Nghymru sydd wedi cyflwyno cynllun ffioedd a mynediad derbyniol yn gallu codi ffioedd o hyd at £9,000 ar israddedigion amser-llawn o’r DU.
Mae ein cod rheolaeth ariannol yn sicrhau bod sefydliadau a reoleiddir yn cael eu rhedeg yn dda, bod ganddynt drefniadau rheolaeth ariannol effeithiol a’u bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.