Skip to page content
This is a placeholder image

Gweithio gyda darparwyr addysg uwch

Adnodd i'r sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach a gyllidwn yn uniongyrchol yw'r adran hon yn bennaf. Yma, bydd sefydliadau'n darganfod gwybodaeth newydd neu wybodaeth wedi'i diweddaru a all fod yn uniongyrchol berthnasol iddynt hwy neu y gall fod angen iddynt ymateb iddi. 

Yn yr adran hon, darperir:
  • arweiniad i sefydliadau addysg uwch (AU) a cholegau addysg bellach (AB) ar ddychwelyd data i ni, sy’n cyfrannu at benderfyniadau cyllido ac a gyhoeddir gennym mewn gwahanol fformatau
  • gwybodaeth am y ffordd y gweithiwn gyda sefydliadau AU ym meysydd cydraddoldeb ac amrywiaeth, a sut y gweithiwn gyda hwy yn fwy cyffredinol
  • gwybodaeth am sut y gofynnwn i sefydliadau AU sicrhau cydymffurfiad ariannol a chydymffurfiad arall
  • arweiniad i lywodraethwyr sefydliadau AU
  • pob cylchlythyr o eiddo CCAUC ers 2003

Fel corff cyfryngol rhwng y Cynulliad a’r sector addysg uwch (AU) yng Nghymru, mae CCAUC yn gweithredu o fewn amgylchedd yr ydym yn dylanwadu arno yn hytrach na’i reoli.

Gweithiwn yn bennaf â’r prifysgolion yng Nghymru i helpu i sicrhau bod y cyllid a ddyrannwn - y grant ‘bloc’ blynyddol i sefydliadau AU sy’n seiliedig ar gofrestriadau a pherfformiad ymchwil, neu symiau llai ar gyfer strategaethau neu gynlluniau - yn cael ei wario:

  • yn unol â’u cenadaethau a’u nodau eu hunain
  • mewn ffordd sy’n helpu i gyflawni’r amcanion ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a amlinellir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
  • yn effeithiol, fel y gellir cyfrif am arian cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl i ni fabwysiadu ymagwedd fwy strategol, sy’n golygu bod yn rhaid i ni edrych ar y ffordd y defnyddiwn gyllid craidd, cyllid Ymgeisio’n Uwch, niferoedd o fyfyrwyr, ac ailgyflunio a chydweithio i gryfhau’r sector AU yng Nghymru.

Skip to top of page or to page menu