Skip to page content
 

Ymgysylltu'n strategol

Rydym wedi bod yn datblygu’n mecanweithiau ar gyfer ymgysylltu’n strategol â’r sefydliadau yr ydym yn eu hariannu. 

Rydym yn ymgysylltu’n strategol â sefydliadau er mwyn:
  • deall eu cyfeiriad strategol, a bod yn fodlon â hyn
  • sicrhau ein hunain bod y Sefydliad Addysg Uwch (SAU) yn gynaliadwy
  • cyfrannu at ein dealltwriaeth o gynaliadwyedd cyffredinol darpariaeth addysg uwch yng Nghymru
  • gwella dealltwriaeth pob sefydliad o flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru a CCAUC
  • caniatáu i ni gyflawni ein cyfrifoldebau statudol wrth gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar anghenion cyllid y sector ac ar faterion eraill sy’n ymwneud â datblygiad addysg uwch yng Nghymru

Ym mhob un o’r rhain, ceisiwn sicrhau ein hunain bod sefydliadau addysg uwch yn defnyddio cyllid cyhoeddus yn gywir, eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol ac yn rhoi ystyriaeth briodol i flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Rydym wedi cyflwyno’r dull y byddwn yn ei fabwysiadu i wella ansawdd ac effeithiolrwydd ein hymgysylltiad strategol â SAUau yng Nghymru

Cylchlythyr Ymgysylltiad Strategol: W09/20HE

Skip to top of page or to page menu