Skip to page content

Arweinyddiaeth, llywodraethu a rheolaeth

Mae’n rhaid i ni fod yn hyderus bod y sefydliadau a gyllidwn yn cael eu rhedeg mor effeithlon ac effeithiol â phosibl er mwyn diogelu’r arian cyhoeddus a ddarparwn ni a gwneud yn siŵr eu bod yn y safle gorau i sicrhau eu cynaliadwyedd tymor hir. Am y rheswm hwn mae gennym ddiddordeb yn nerth a gallu arweinyddiaeth, trefn lywodraethu a rheoli sector addysg uwch (AU) Cymru.

Rydym yn chwilio am sicrwydd ynglŷn â digonolrwydd y trefniadau hynny trwy ein hymrwymiadau gwahanol â’r sector a sefydliadau unigol, gan gynnwys yr adolygiadau ynghylch risg sefydliadol a gynhaliwn fel rhan o’n trefniadau Ymgysylltu Strategol.

Ymgysylltu'n strategol

Rydym yn cefnogi gweithgareddau llywodraethu a rheoli sefydliadau megis Pwyllgor Cadeiryddion y Prifysgolion a’r Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch. Hefyd rydym yn llunio canllawiau a deunydd gwybodaeth ein hun o bryd i’w gilydd ar gyfer llywodraethwyr ac uwch reolwyr mewn SAUau.

Skip to top of page or to page menu