Skip to page content

Gwybodaeth i lywodraethwyr

Rydym yn darparu dolenni i ffynonellau allweddol o wybodaeth ynglŷn ag arweinyddiaeth, trefn lywodraethu a rheoli.

Gobeithir y bydd cyrff rheoli AU yn sicrhau:
  • bod y trefniadau llywodraethu yn eu sefydliadau’n cydymffurfio ag arferion gorau
  • eu bod yn fwy medrus i gyflawni eu cyfrifoldebau ar gyfer gosod cyfeiriad strategol a monitro perfformiad sefydliadol
  • bod eu sefydliadau’n defnyddio cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth
Pwyllgor Cadeiryddion y Prifysgolion (PCP)

Yn ein barn ni, dylai cyrff llywodraethu a phwyllgorau archwilio SAUau yng Nghymru ymddwyn yn unol ag egwyddorion ac arferion PCP, a phryd maen nhw’n wahanol dylid egluro a chyhoeddi hyn.

Mae PCP wedi llunio amrywiaeth o ganllawiau awdurdodol ar gyfer cyrff llywodraethu SAUau sydd ar gael ar wefan PCP.

Y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch (SAAU/LFHE)

Mae’r SAAU yn rhoi cefnogaeth a chyngor ynghylch arweinyddiaeth, trefn lywodraethu a rheoli i holl SAUau’r DU. Mae gwefan y SAAU yn cynnwys manylion yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael a gwybodaeth ynglŷn â’i raglenni hyfforddi a datblygu, digwyddiadau a phrosiectau ymchwil.

Gwefan trefn lywodraethu

Lansiwyd gwefan ar bwnc trefn lywodraethu o dan ofal y SAAU yn 2009. Mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau allweddol ar gyfer llywodraethwyr, aelodau cynghorau ac eraill sydd â diddordeb yn y drefn lywodraethu mewn addysg uwch.

Digwyddiad hyfforddi llywodraethwyr yng Nghymru

Mae Addysg Uwch Cymru, ar ran Cadeiryddion Addysg Uwch Cymru, yn trefnu digwyddiad hyfforddi blynyddol bob hydref ar gyfer llywodraethwyr AU newydd a’r rhai sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru. Yn draddodiadol, mae Prif Weithredwr CCAUC yn rhoi cyflwyniad yn y digwyddiadau hyn.

Cyflwyniad hyfforddi Llywodraethwyr CCAUC, Tachwedd 2009 (Saesneg yn unig)
 
Pecyn gwybodaeth i lywodraethwyr

Y sefydliadau sydd â’r prif gyfrifoldeb dros ddarparu gwybodaeth i lywodraethwyr. Er hynny, gan fod gan CCAUC fynediad i lu o ystadegau a gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad, rydym wedi casglu a chyhoeddi amrywiaeth detholus o wybodaeth ar gyfer cyrff llywodraethu ar ffurf Pecyn Gwybodaeth (Saesneg yn unig).

Pecyn gwybodaeth i lywodraethwyr AU 2009

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill

heidi: cronfa ddata ar y we ar gyfer ymholi ynglŷn â data’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA)


Dangosyddion Perfformiad mewn Addysg Uwch - data AU cymharol, wedi’u llunio’n flynyddol a’u cyhoeddi ar wefan yr AYAU

Cyhoeddiadau Prifysgolion y DU

Canllawiau ynglŷn â threfn lywodraethu AU o’n tudalen Ganllawiau

Skip to top of page or to page menu