Dogfennau arweiniad ar gyfer llywodraethwyr
addysg uwch
Darparwn nifer o ddogfennau allweddol yn ymwneud â threfn lywodraethu a materion perthynol a fydd o ddiddordeb i lywodraethwyr AU.
Paratowyd yr argraffiad diwygiedig hwn o’r Canllawiau ym mis Tachwedd 2008 ac fe’i cyhoeddwyd a’i ddosbarthu i holl SAUau y DU ym mis Mawrth 2009.
Llawlyfr PCP ar gyfer Aelodau Pwyllgorau Archwilio mewn Sefydliadau Addysg Uwch.
‘Mynd i’r Afael â’ – cyfres o ganllawiau a luniwyd gan PCP a Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch (Chwefror 2009) yn ymwneud â’r meysydd canlynol:
Mynd i’r Afael â Safonau Academaidd, Ansawdd, a Phrofiad y Myfyriwr
Mynd i’r Afael â Rhyngwladoliaeth
Mynd i’r Afael ag Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth
Adroddiad PCP ar Fonitro Perfformiad Sefydliadol a Defnydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol (2006)
Adroddiad ar Weithredu Dangosyddion Perfformiad Allweddol: Profiad Astudiaeth Achos (2008)
- amrywiaeth o adroddiadau, wedi’u cyflwyno ar ffurf raffig lle mae hynny’n bosibl, yn dangos perfformiad neu safle sector Cymru a sefydliadau unigol yng nghyd-destun ehangach y DU. (Nodir rhestr fynegol o’r adroddiadau arfaethedig yn Atodiad A ein cylchlythyr Ymgysylltu Strategol, W09/20HE)
- llawlyfr sy’n nodi amrywiaeth o ffynonellau data a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli

