Skip to page content

Sicrwydd Sefydliadol

O dan y Memorandwm Ariannol rhwng CCAUC a Llywodraeth Cymru, Prif Weithredwr CCAUC yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer y cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r arian sy’n cael ei wario gan sefydliadau addysg uwch (AU) a chyrff eraill sy’n derbyn cyllid gan CCAUC.

Ar gyfer y sefydliadau AU a ariannwn, rydym yn cyflawni’r cyfrifoldeb mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith adolygu sicrwydd mewn sefydliadau; monitro iechyd ariannol sefydliadau; ac adolygu cynlluniau ystadau a datblygu cyfalaf sefydliadau’n rheolaidd.

Memorandwm Ariannol

Mae Memorandwm Ariannol Gennym: Cylchlythyr W08/36HE (Saesneg yn unig) gyda phob sefydliad AU, sy’n gosod y telerau ac amodau ar gyfer talu grant CCAUC.

Y Comision Elusennau

Mae gan CCAUC Memorandwm Dealltwriaeth gyda Chomisiwn Elusennau Lloegr a Chymru, sydd yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ynghyd a rhannu gwybodaeth er mwyn cydlynu ein gweithgareddau rheoli mewn perthynas â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 

Skip to top of page or to page menu