Cyllid y sefydliadau
Mae Sefydliadau Addysg Uwch (AU) yn atebol i ni, ac yn y pen draw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ynglŷn â’r ffordd y defnyddiant ein cyllid. Drwy gyfrwng nifer o brosesau sydd yn weithredol gennym rydym yn sicrhau bod y cyllid a ddyrannwn yn cael ei ddefnyddio’n gywir a bod iechyd ariannol y sefydliadau yn sicr.
Mae Memorandwm Ariannol Gennym: Cylchlythyr W08/36HE (Saesneg yn unig) gyda phob sefydliad AU, sy’n gosod y telerau ac amodau ar gyfer talu grant CCAUC.
Mae’n rhaid i bob sefydliad gael systemau cadarn ar gyfer rheoli a chadw trefn ar ei gyllid, ac mae’n rhaid iddo anfon ei gyfrifon archwiliedig atom bob blwyddyn. Dylid paratoi’r cyfrifon yn unol â Datganiad Ymarfer Argymelledig:cyfrifyddu ar gyfer Addysg (SORP).
Yn ogystal, dosbarthwn Gyfarwyddyd ynghylch Cyfrifon blynyddol sy’n rhoi manylion unrhyw wybodaeth ychwanegol rydym eisiau sefydliadau i’w datgelu yn eu cyfrifon.
Cyhoeddwn wybodaeth ynglŷn â sefyllfa ariannol y sector bob blwyddyn, fel y dangosir gan y datganiadau ariannol archwiliedig diweddaraf.
Rydym yn monitro iechyd ariannol sefydliadau er mwyn sicrhau nad yw arian cyhoeddus ac asedau a ariannwyd gan y cyhoedd yn cael eu peryglu. Rydym yn gwneud hyn yn rhannol trwy ein hadolygiad o’r cyfrifon blynyddol, ond hefyd rydym yn gofyn i sefydliadau roi rhagolygon ariannol pum mlynedd i ni. Mae’r gofyniadau manwl wedi’u nodi yn ein cylchlythyr blynyddol Rhagolygon Cais am wybodaeth Cynllunio Strategaeth, rhagolygon a datganiadau Monitro Blynyddol.
Fel rhan o’n trefniadau ymgysylltu strategol, byddwn yn cynnal adolygiadau risg sefydliadol rheolaidd ar gyfer pob sefydliad AU yng Nghymru sy’n integreiddio asesiadau iechyd ariannol ag amrywiaeth o feysydd risg allweddol eraill.
Mae cyrff cyllido AU y DU wedi cyflwyno trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso cynaliadwyedd sail ymchwil y DU. Cynlluniwyd y mesurau hyn i sicrhau bod y lefel cynyddol o fuddsoddi mewn ymchwil yn cyflawni’r amcan allweddol o gyfrannu at gynaliadwyedd sefydliadau ymchwil ledled y DU.
Yn ogystal, mae angen cynyddol am sicrwydd ynglŷn â chynaliadwyedd ariannol ehangach sefydliadau AU, a chyflwynwyd nifer o fetrigau a dangosyddion perfformiad allweddol dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn monitro a gwerthuso perfformiad blaenorol a chynaliadwyedd yn y dyfodol ar gyfer sefydliadau AU Cymru.
Yr Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio (YDGP) yw’r fethodoleg safonol a gyflwynwyd yn 2000 ar gyfer costio prif weithgareddau sefydliadau addysg uwch. Mae’n cyflawni nifer o ddibenion, gan gynnwys cefnogi atebolrwydd sefydliadau am yr arian cyhoeddus y maen nhw’n ei dderbyn.
Datblygwyd prosiect TRAC gan y Cyd-grŵp Llywio Costio a Phrisio hyd 2005, pan gymerwyd y gwaith drosodd gan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain a’r Grŵp Costio a Phrisio.
Mae datblygiad materion strategol, polisi, diwylliannol a thechnegol ynglŷn â defnydd a datblygiad TRAC yn cael ei weithredu gan y Grŵp Strategaeth Cynaliadwyedd Ariannol (GSCA). Yn ogystal â’r GSCA, mae Grŵp Datblygu TRAC sy’n goruchwylio gwaith datblygu mwy manwl prosiect TRAC.
Cyhoeddwyd cyfraddau diweddaraf costau anuniongyrchol ac ystadau, i’w defnyddio wrth wneud ceisiadau i’r Cyngor Ymchwil OSI am grantiau ar gyfer prosiectau ymchwil ar sail cost economaidd lawn. Bydd y cyfraddau hyn yn weithredol o fis Ebrill 2011 ymlaen a byddant ddilys tan ddiwedd mis Chwefror 2011. Gosodwyd y cyfraddau gan gynrychiolwyr yr Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau (sef yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau erbyn hyn), y Cynghorau Ymchwil a chyrff Cyllido AU y DU.
Cyfraddau Esgusodi TRAC (Ymagwedd Dryloyw at Gostio) 2011-12
Ym mis Mehefin 2010 cafodd yr adroddiad ‘Cynaliadwyedd ac Effeithlonrwydd Ariannol wrth wneud Costiad Economaidd Llawn o Ymchwil yn Addysg Uwch y DU’ ei gyhoeddi, a gwnaeth gyfres o argymhellion ymarferol ar gyfer cyrff cyllido, prifysgolion a cholegau. Roedd yr argymhellion hyn yn ymdrin yn arbennig â chynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ariannol y sector yn y dyfodol.
Mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Wakeham, sefydlodd y Grŵp Strategaeth Cynaliadwyedd Ariannol (FSSG) a’r Grŵp Datblygu TRAC (TDG) nifer o brosiectau adrodd ym maes Gwybodaeth Rheoli i ymdrin ag agweddau allweddol ar gynaliadwyedd. Hefyd comisiynodd y Grŵp Strategaeth yr adroddiad ‘Asesu Cynaliadwyedd Sefydliadau Addysg Uwch’, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2011, ac mae nifer o gynadleddau lefel uchel wedi cael eu cynnal gyda’r sefydliadau i atgyfnerthu’r prif negeseuon cynaliadwyedd. Ymatebodd Cyngor Ymchwil y DU (RCUK) hefyd i adroddiad Wakeham yn ei ddogfen ‘Effeithlonrwydd 2011-15: Sicrhau Rhagoriaeth gydag Effaith’.
Ym mis Mehefin 2011 hefyd, cyhoeddodd y Grŵp Strategaeth y Portffolio Gwybodaeth Rheoli, sy’n rhoi trosolwg o’r ymateb i’r Her Cynaliadwyedd ac yn darparu pedwar canllaw arfer da manwl yn y meysydd canlynol: costio cyrsiau, cynllunio baich gwaith, rheoli dyrannu adnoddau, a chynaliadwyedd adrannol.
Portffolio Gwybodaeth Rheoli a Chanllawiau Unigol
Mae’n hanfodol ar gyfer gwerthuso cynaliadwyedd yn y dyfodol, yn enwedig mewn ymchwil, fod proses TRAC yn cael ei defnyddio’n gywir ac mewn ffordd addas.
Yn 2006, dechreuodd y Cynghorau Ymchwil ariannu prosiectau ymchwil mewn sefydliadau AU ar sail costio economaidd llawn, ac ar yr un adeg sefydlodd Cynghorau Ymchwil y DU y broses Sicrwydd Ansawdd a Dilysu i fesur cydymffurfio wrth ddyrannu adnoddau ar gyfer ymchwil a chyfrifo cyfraddau costau’n gywir.
Adroddiad Sicrwydd Ansawdd a Dilysiad RCUK (Mawrth 2009)
Cynaliadwyedd ac Effeithlonrwydd Ariannol wrth wneud Costiad Economaidd Llawn o Ymchwil yn Addysg Uwch y DU (Adolygiad Wakeham) – Cyhoeddwyd 24 Mehefin 2010Effeithlonrwydd 2011-15: Sicrhau Rhagoriaeth gydag Effaith – Dyddiad 21 Mawrth 2011

