Ystadau a chyllid cyfalaf
Ar ôl costau staffio, gwariant ar ddatblygu, cynnal, a gweithredu’r ystad yw’r ail gost fwyaf sy’n wynebu prifysgolion. Bydd CCAUC yn gweithio gyda staff ystadau proffesiynol i’w helpu i greu ystad sy’n gyson â chynllunio strategol eu sefydliadau, ac sydd hefyd yn ariannol ac amgylcheddol gynaliadwy. Dylai’r ystad hefyd gyfrannu’n gadarnhaol at brofiad y myfyrwyr, yn ogystal â chefnogi’r gymuned leol drwy ei galluogi i rannu cyfleusterau chwaraeon, diwylliannol, academaidd, a busnes.
Dylai’r ddogfen hon nodi’r amcanion allweddol ar gyfer yr ystad yn ystod y 15 mlynedd nesaf a chynnwys dadansoddiad o’i pherfformiad presennol. Mae’r strategaeth ystad yn darparu trosolwg o’r dewisiadau sydd wedi cael eu hystyried i gwrdd â’r amcanion strategol allweddol sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun strategol, ac yn nodi’r prif brosiectau cyfalaf sydd eu hangen. Ym mhob achos, mae angen i’r strategaeth ystad ddangos bod y datblygiad arfaethedig a rheolaeth barhaus wedi gwella perfformiad. Dylai’r strategaeth fod yn ddynamig a dylai gael ei chefnogi gan ddiweddariadau ac adroddiadau blynyddol. Disgwyliwn i’r strategaeth ystad gael ei chymeradwyo gan gorff llywodraethu’r sefydliad ac i’r llywodraethwyr gael eu hysbysu’n rheolaidd o gynnydd ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen.
Strategaethau ystadau 2011: Cylchlythyr W11/21HE
Dylai’r rhagolygon ariannol gynnwys manylion prosiectau cyfalaf yr ystad sydd yn yr arfaeth, sydd wedi’u cwblhau ac sydd ar y gweill, gan gynnwys ffynonellau cyllid, ond dylent hefyd nodi newidiadau i gyllidebau refeniw yr ystad. Dylent gynnwys yr amserlenni ar gyfer gweithredu’r prosiectau cyfalaf yn y strategaeth ystad o fewn cyfnod y rhagolwg, yn ogystal â nodi unrhyw ddatblygiadau di-fantolen. Byddem yn disgwyl gweld sylwadau pellach ar yr ystad yn yr adroddiad monitro cynnydd y mae gofyn i bob sefydliad ei gyflwyno erbyn 31 Hydref 2011.
Request for strategic planning information, forecasts and Annual Monitoring Statements: Cylchlythyr W11/25HE (Saesneg yn unig)Mae’r Ystadegau Rheoli Ystad (EMS) yn darparu storfa o ddata i alluogi sefydliadau i asesu eu perfformiad yn erbyn eu cymheiriaid. Gellir eu defnyddio hefyd i ganfod arfer da. Yn ogystal, defnyddir y data gan CCAUC a chynghorau cyllido eraill y DU i wella ein dealltwriaeth o’r sector. Trosglwyddwyd yr Ystadegau Rheoli Ystad yn ddiweddar i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA) er mwyn gallu eu hintegreiddio’n well â setiau data AU allweddol eraill a chynyddu eu defnyddioldeb drwy fanteisio ar y rhaglen holi HEIDI. Mae CCAUC yn parhau i weithio gyda’r AYAU, y sector, a chynghorau cyllido eraill y DU i ddatblygu a gwella’r adnodd pwysig hwn ymhellach.
Mae rheoli lle yn effeithiol yn ddull allweddol o leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd. Mae’n gwneud cyfraniad pwysig hefyd at leihau allyriadau carbon. Dylai rheoli lle effeithiol roi sylw i berfformiad, llywio rhaglenni cyfalaf, ac ysgogi syniadau creadigol am rannu lle a defnyddio ystafelloedd ac adeiladau at sawl pwrpas. Mae’r Grŵp Rheoli Lle wedi datblygu nifer o offer i helpu i wneud dadansoddiad manwl o ddefnyddio lle ac i hwyluso meincnodi. Mae hyn yn cynnwys, yn 2010, datblygu’r Model o Gostau Ystad (MEC) a’r Model Asesu Lle (SAM) ar y cyd â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau’r Prifysgolion, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, Cyngor Cyllido’r Alban ac Adran Cyflogaeth a Dysgu Gogledd Iwerddon.
Mae CCAUC yn disgwyl i’r sefydliadau ddangos ymagwedd gadarn at reoli lle a darparu tystiolaeth ei fod yn dylanwadu ar arfer rheoli a phrosiectau cyfalaf.
Mae’r angen i wella cynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau allyriadau carbon yn hollbwysig er mwyn rheoli’r ystad yn effeithiol a’r prif ddylanwadau yn y cyswllt hwn yw deddfwriaeth, cyllid, a phrisiau egni. Yng Nghylchlythyr W08/07HE nodwn ein bod yn disgwyl i’r sefydliadau ddatblygu a chynnal systemau rheoli amgylcheddol sydd wedi cael eu gwirio’n allanol. Rhaid i sefydliadau hefyd fodloni gofynion amgylcheddol ychwanegol wrth godi adeiladau newydd, gan gyrraedd safon Ardderchog BREEAM, a rhaid iddynt gwrdd â gofynion ailgylchu Llywodraeth Cymru. W07/30HE Mae CCAUC yn disgwyl i’r sefydliadau fynd ati i chwilio am gyfleoedd i leihau allyriadau carbon drwy reoli a datblygu’r ystad a bydd yn monitro cynnydd drwy astudio’r ystadegau rheoli ystad.
Mae CCAUC yn ceisio helpu sefydliadau i leihau eu hallyriadau carbon drwy ei bartneriaeth ag Ymddiriedolaeth Carbon Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i roi cymorth ymarferol i reolwyr egni ac i ymgymryd ag astudiaethau sy’n berthnasol i’r sector. Mae hefyd yn golygu y gallwn gyrchu’r gwasanaeth Cyngor Dylunio a Rheoli Carbon.
Mae arian ar gyfer prosiectau sy’n helpu i leihau carbon ar gael gan Salix sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i roi benthyciadau di-log i gyrff yn y sector cyhoeddus y mae ganddynt brosiectau cymwys. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i sefydliadau gyrchu cyllid a defnyddio’r cynilion refeniw a wnânt wrth weithredu’r prosiectau a gymeradwywyd i ad-dalu’r costau cyfalaf.

