Adolygiadau sicrwydd sefydliadol
Mae gwasanaeth sicrwydd sefydliadol CCAUC yn gyfrifol am gynnal adolygiadau sicrwydd sefydliadol a gwaith perthnasol arall i werthuso trefniadau rheoli mewnol, rheoli risg a threfn lywodraethu’r sefydliadau addysg uwch (AU) a ariennir gan CCAUC. Cynhelir y gwaith hwn er mwyn rhoi sicrwydd i Gyngor CCAUC, a’r Prif Weithredwr fel swyddog cyfrifyddu, ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny.
Nodir ein gofyniadau ynglŷn â threfniadau ar gyfer atebolrwydd ac archwilio sefydliadau addysg uwch yn y Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio. Mae cydymffurfio â gofyniadau gorfodol y Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio yn ofyniad yn ôl y Memorandwm Ariannol rhwng CCAUC a sefydliadau AU yng Nghymru, ac felly mae’n amod ar gyfer talu grant.
Memorandwm Ariannol a Chod Ymarfer ar gyfer Archwilio
Fel rhan o’n trefniadau ar gyfer Ymgysylltu Strategol rydym wedi symud at ddull sy’n fwy seiliedig ar risg yn y ffordd rydym yn cynnal adolygiadau sicrwydd sefydliadol. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar chwilio am sicrwydd ynglŷn â chadernid prosesau mewnol y sefydliadau eu hunain.
O bryd i’w gilydd rydym yn rhoi canllawiau penodol ynglŷn â materion yn ymwneud ag archwilio neu reoli mewnol. Hefyd rydym yn cyfeirio sefydliadau AU at amrywiaeth o ganllawiau allanol ar faterion perthynol.
Rydym yn dosbarthu cylchlythyron yn ymwneud ag archwilio sy’n cynnwys cyngor ar faterion yn ymwneud ag archwilio, canllawiau ar faterion yn ymwneud â rheoli neu werth am arian, neu sy’n tynnu sylw at adroddiadau a ddosberthir gan Swyddfa Archwilio Cymru a Phwyllgor Archwilio Cynulliad Cymru.
Lle mae gan fater a godwyd effaith wirioneddol neu botensial ar drefniadau neu amgylchedd rheoli mewnol mewn sefydliad:
- disgwyliwn y bydd rheolwyr y sefydliad yn sicrhau bod y rheoliadau mewnol sy’n bodoli yn ddigonol
- byddwn yn cynghori Pwyllgor Archwilio a/neu Gyllid (neu gorff cyfatebol) y sefydliad ynglŷn â derbyn arweiniad a gweithgaredd a gyflawnwyd, hyd yn oed pan mae’n eglur nad oes angen gweithredu pellach
Canllawiau Archwilio Cronfeydd ar gyfer y Diben (Gorffennaf 2000, W00/77HE)
Mae rhai adroddiadau cenedlaethol gan SAC ar gael sy’n ymdrin â materion yn ymwneud ag addysg uwch.
Yn 2005 cynhaliodd CCAUC adolygiad o brosesau sefydliadau AU yng Nghymru ar gyfer sefydlu cyflogau pennaeth y sefydliad a staff uwch eraill, a’r broses ar gyfer penderfynu trefniadau diswyddo.
Adolygiad o brosesau trefn lywodraethu tâl a diswyddo ar gyfer staff uwch mewn sefydliadau addysg uwch yng NghymruMae Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio CCAUC yn berthnasol i bob sefydliad AU yng Nghymru ac i’w cwmnïau perthynol. Ym mis Rhagfyr 2005 cyhoeddodd cyrff cyllido’r DU ganllawiau i sefydliadau AU ynglŷn â chwmnïau perthnasol.
Cyfeiriwn sefydliadau AU yng Nghymru at ganllawiau a luniwyd gan HEFCE ym 1999 ar atal, canfod ac ymchwilio i dwyll.
Rydym yn cymeradwyo’r dull a nodir yn Fframwaith Arferion Proffesiynol Rhyngwladol Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol (2009), sy’n cynnwys y Cod Moeseg a Safonau Rhyngwladol. Yn ogystal, rydym yn cymeradwyo Datganiad Safle ar Archwilio Mewnol yn Seiliedig ar Risg Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol (2003) Mae’r dogfennau hyn i’w cael gan Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol.
Mae Cyngor Archwilwyr Mewnol Addysg Uwch (CHEIA) yn gorff cynrychiadol ar gyfer darparwyr gwasanaethau archwilio mewnol mewn AU yn y DU. Mae’n rhoi rhwydwaith i broffesiynolion archwilio mewnol ar gyfer eu datblygiad ac i ledaenu arferion gorau.
Ymholiadau trwy e-bost: assurance@hefcw.ac.uk

