Cwynion yn erbyn sefydliadau a gyllidir gan CCAUC
Ni fyddwn yn chwarae unrhyw ran mewn unrhyw anghydfod rhwng myfyrwyr neu staff a'u sefydliadau. Ond mae'n bosibl y byddwn yn gweithredu os bydd mater yn codi ynghylch a yw'r cyllid a ddyrannwn yn cael ei ddefnyddio'n briodol.
O bryd i’w gilydd mae CCAUC yn derbyn honiadau o afreoleidd-dra neu amhriodoldeb ariannol, camreolaeth, gwastraff, neu dwyll mewn sefydliadau addysg uwch.
Honiadau ynglyn â sefydliadau a gyllidir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Saesneg yn unig)

