Adnoddau a dolenni
Yn yr adran hon crynhoir yr holl ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus wybod amdani, a darperir dolenni i’r testunau cyfreithiol llawn.
Mae hon yn darparu cydnabyddiaeth gyfreithiol a thriniaeth gyfartal i barau o’r un rhyw a pharau priod, gan gynnwys budd-daliadau cyflogaeth a hawliau pensiwn. Cyrchwch Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae'r ddeddf hon yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn perthynas â chyflogaeth, darparu cyfleusterau a gwasanaethau, a gweinyddu neu reoli adeiladau. Cyrchwch Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae hon yn rhoi dyletswydd gadarnhaol ar gyrff cyhoeddus i hybu cydraddoldeb i bobl anabl. Cyrchwch Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae’r rheoliad hwn yn diogelu rhag gwahaniaethu ar sail crefydd neu gredo mewn perthynas â chyflogaeth, hyfforddiant galwedigaethol, dyrchafu ac amodau gwaith. Cyrchwch Reoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gredo) 2003 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan ACAS.
Cyflwynir diffiniadau newydd o wahaniaethu anuniongyrchol ac aflonyddu, yn gwahardd yn benodol wahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth, ac yn nodi i ba raddau y mae’n wahaniaethol i dalu menyw yn llai nag y byddai wedi cael ei thalu fel arall o ganlyniad i feichiogrwydd neu faterion mamolaeth. Cyrchwch Reoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Gwahaniaethu ar Sail Rhyw) 2005 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae’r rheoliad hwn yn diogelu rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol mewn perthynas â chyflogaeth, hyfforddiant galwedigaethol, dyrchafu ac amodau gwaith. Cyrchwch Reoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan ACAS.
Mae hon yn rhoi hawl i unigolyn fwynhau’r un cyflog a buddion cytundebol â pherson o’r rhyw arall yn yr un gyflogaeth, lle mae’r dyn a’r fenyw yn gwneud: gwaith tebyg; gwaith y nodwyd ei fod yn gyfwerth mewn astudiaeth gwerthuso swydd ddadansoddol; neu waith y profwyd ei fod o’r un gwerth. Cyrchwch Ddeddf Cyflog Cyfartal (Diwygiad) 1970 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Pwrpas y ddeddf hon oedd sefydlu un Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol erbyn 2007, gan ddisodli’r tri chomisiwn presennol. Mae’n rhoi dyletswydd gadarnhaol ar gyrff sector cyhoeddus i hybu cyfle cyfartal rhwng menywod a dynion a dileu gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae’n diogelu rhag gwahaniaethu ar sail crefydd neu gredo mewn perthynas â mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau da. Cyrchwch Ddeddf Cydraddoldeb 2006 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan yr Uned Menywod a Chydraddoldeb.
Pwrpas y ddeddf hon yw rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol yn eu rhyw gaffaeledig. Rhoddir cydnabyddiaeth gyfreithiol ar ôl i banel cydnabod rhyw roi tystysgrif cydnabod rhyw lawn. Cyrchwch Ddeddf Cydnabod Rhyw 2004 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ymgorffori hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i mewn i gyfraith ddomestig. O dan y Ddeddf Hawliau Dynol gall unigolion ddod ag achosion yn erbyn awdurdodau cyhoeddus am dorri eu hawliau o dan y Confensiwn. Mae gofyn i lysoedd a thribiwnlysoedd yn y DU ddehongli cyfraith ddomestig, hyd y bo modd, yn unol â’r hawliau yn y Confensiwn. Gall cyfraith achosion flaenorol gael ei dirymu os yw’r hawliau hyn wedi cael eu torri a gall y gyfraith berthnasol gael ei hailddehongli mewn ffordd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar seiliau anghynhwysfawr, sy’n cynnwys ar sail rhyw, lle y mae un o hawliau eraill y Confensiwn yn cael ei defnyddio.
Mae’r ddeddf hon yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil ym meysydd cyflogaeth, addysg, darparu nwyddau, cyfleusterau, gwasanaethau ac adeiladau. Gellir cael gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae hon yn rhoi dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus i hybu cyfle cyfartal, dileu gwahaniaethu ar sail hil, a hybu perthnasoedd da rhwng gwahanol grwpiau hiliol. Cyrchwch Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu dewch o hyd i wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae’r Ddeddf hon yn ceisio atal pobl rhag defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol yn fwriadol i gyffroi casineb yn erbyn rhywun oherwydd yr hyn y mae’n ei gredu. Cyrchwch Ddeddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae’r ddeddf yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon mewn cyflogaeth, addysg a hysbysebu, neu wrth ddarparu tai, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau. Mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl briod, mewn cyflogaeth, neu mewn hysbysebion ar gyfer swyddi. Cyrchwch Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 ar wefan Press for Change neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Mae’r ddeddf hon yn ceisio atal gwahaniaethu ar sail rhyw mewn perthynas â newid rhyw (gender reassignment). Mae’n egluro’r gyfraith i bobl drawsrywiol mewn perthynas â chyflog cyfartal a thriniaeth gyfartal mewn cyflogaeth a hyfforddiant. Cyrchwch Reoliadau Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Newid Rhyw) 1999 ar wefan Press for Change neu cewch wybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).

