Skip to page content

Cynnwys pobl anabl

Cydnabyddwn fod cynnwys pobl anabl yn allweddol i lwyddiant ein Cynllun Cydraddoldeb a bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn gofyn i ni wneud mwy na dim ond ymgynghori â rhanddeiliaid anabl. Felly byddwn yn cynnwys pobl anabl wrth i ni ddatblygu ein cynllun ac arwain a siapio’r sector.

Os ydych yn anabl neu os oes gennych brofiad o weithio gyda phobl anabl yn y sector a hoffech chi gymryd rhan fwy gweithgar ym mhroses llunio polisi CCAUC – gan roi sylwadau hyd at gyfrannu at asesiadau effaith cydraddoldeb – byddwch cystal â chysylltu â ni drwy equality@hefcw.ac.uk i gael eich ychwanegu at ein cronfa ddata o randdeiliaid.

 Mae'r fath wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel a chyfrinachol ac na chaiff ei rhannu â sefydliadau neu drydydd partïon.

Skip to top of page or to page menu