Cydraddoldeb ac amrywiaeth a rôl CCAUC yn y sector
Bydd CCAUC yn ymdrin ag ystod o gynlluniau polisi’n ymwneud ag addysg uwch (AU) ac mae ganddo gysylltiadau eang eu cwmpas â chyrff cyhoeddus a phreifat, yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n bwysig bod ein Cynllun Cydraddoldeb yn adlewyrchu’r rôl hon, deddfwriaeth berthnasol, a’r angen i weithio’n agos â’r sector AU yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i gwrdd â’i rwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth ac, wrth wneud hyn, byddwn yn gweithio’n agos â’r sector AU i ddatblygu a lledaenu arfer da. Byddwn yn gwneud cydraddoldeb yn fater craidd wrth ddatblygu a gweithredu polisïau a gwasanaethau, a byddwn yn asesu ac yn mireinio’r rhain i hyrwyddo’r agenda cydraddoldeb, gan gynnwys materion yn ymwneud â chyflogaeth staff yn y sefydliadau a CCAUC.
Bydd CCAUC yn gweithio gyda’r sefydliadau a gyllidir ganddo i gyflawni’r canlynol:- cyflogi staff, gan gynnwys ar y lefel uwch, o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, a chynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan grwpiau o’r fath
- parhau i ddatblygu systemau cymorth i staff a myfyrwyr, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau’n ymwneud â gwahaniaethu ac aflonyddu
- casglu gwybodaeth man cychwyn am y sefyllfa recriwtio bresennol, a gosod targedau i wella’r sefyllfa
- datblygu strategaethau adnoddau dynol sy’n cynnwys ystyried materion cyfle cyfartal
Mae gweithredu pellach gan y sector o dan bob un o’i nodau strategol yn cynnwys:
Mae ein gwaith ar ehangu mynediad wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau i gynyddu recriwtio a chadw myfyrwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch ar hyn o bryd. Dyrannwn gyllid i sefydliadau i weithredu cynlluniau cyn-fynediad a chodi dyheadau, ac i roi cymorth ariannol i ymgeiswyr o gefndiroedd annhraddodiadol ar ôl iddynt gofrestru. Hefyd, cyllidwn bedair partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach ranbarthol sy’n hwyluso ymagweddau cydweithiol rhwng sefydliadau a chyda chyrff eraill.
Mae pob myfyriwr yn disgwyl dysgu a chymorth cysylltiedig o’r safon uchaf. Ond gall fod rhai meysydd dysgu ac addysgu sy’n effeithio ar rai grwpiau. Bydd gofyn i sefydliadau ystyried hyn fel rhan o’r adolygiad o’u strategaethau dysgu ac addysgu. Bydd rhan o’r gweithredu hwn yn dibynnu ar gyflwyno delfrydau ymddwyn a mecanweithiau cymorth priodol. Gall y rhain fod yn debyg neu’n annhebyg i’r rheiny sydd eu hangen mewn cyd-destun ehangu mynediad.
Ystyrir bod perthnasedd dull Cyllido Ymchwil CCAUC i faterion cydraddoldeb yn isel ar hyn o bryd. Ond cymerwyd materion yn ymwneud â chydraddoldeb i ystyriaeth wrth adolygu’r broses o asesu ymchwil, lle y mae’r rhain yn codi o’r ymgynghoriad eang sydd eisoes wedi cael ei gynnal. Yn ogystal, bydd materion yn ymwneud ag adeiladu gallu ymchwil yn cydnabod y dimensiwn cydraddoldeb.
Rydym yn disgwyl i bob sefydliad roi sylw dyledus i’r agenda hwn a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig wrth baratoi eu strategaethau trydedd genhadaeth. Mae angen i SAUau gymryd i ystyriaeth faterion yn ymwneud â chydraddoldeb mewn amrywiaeth eang o feysydd trydedd genhadaeth sy’n cynnwys: gwasanaethau i fusnes; sgiliau a chyflogadwyedd; entrepreneuriaeth, ac ymwneud cymunedol a diwylliannol. Hefyd anogir sefydliadau i ystyried cydraddoldeb wrth ddatblygu cysylltiadau â’r Cynghorau Sgiliau Sector yng Nghymru ac mewn perthynas â’u cyfranogiad yng nghynllun GO Wales CCAUC.
Bu’r dasg o recriwtio athrawon dan hyfforddiant yn un ddigon heriol mewn rhai meysydd pwnc uwchradd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a recriwtio dynion i addysg gynradd yn fwy heriol fyth. Ond mae hyn yn hanfodol er mwyn darparu delfrydau ymddwyn effeithiol mewn ysgolion – yn ddynion a menywod. Mae CCAUC wedi comisiynu gwaith sydd wedi edrych ar arfer da yn y maes hwn, ac mae gwersi’n cael eu dysgu o hyn. Bydd CCAUC yn parhau i annog sefydliadau i sicrhau bod cyfansoddiad eu carfannau cwrs yn adlewyrchu’r poblogaethau a’r ysgolion a wasanaethant. Bydd CCAUC yn gweithio gyda’i bartneriaid i wella recriwtio, gan gynnwys gyda Fforwm Recriwtio Gweithlu Addysg Cymru.
Wrth fonitro perfformiad ac effeithiolrwydd y sefydliadau, mae’r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod hwy’n cwrdd â’u rhwymedigaethau statudol o leiaf. Ar ben hyn, mae CCAUC yn annog y sefydliadau i ymgorffori cyfle cyfartal yn eu harferion adnoddau dynol. Er sylweddoli na all un unigolyn neu dîm yn unig fod yn gyfrifol am weithredu dyletswyddau cyfartal yn effeithiol, rydym wedi nodi cyfle cyfartal fel nodwedd benodol o strategaethau adnoddau dynol (AD) a byddwn yn annog y sefydliadau i ystyried materion cydraddoldeb rhyw ym mhob swyddogaeth AD.
Mae ein Uwch Reolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhoi cyngor ac arweiniad i sefydliadau addysg uwch (SAUau) ar eu dyletswyddau tuag at fyfyrwyr a staff anabl, ac ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn fwy cyffredinol. Mae’r swyddog hefyd yn helpu SAUau i ddefnyddio eu cyllid yn effeithiol, yn meithrin datblygu a lledaenu arfer da ac arloesedd ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn cyfrannu at ddatblygiadau yn y sector a pholisi CCAUC ar gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg uwch.
Rydym hefyd yn cyllido’r Uned Her Cydraddoldeb (UHC), gwasanaeth sy’n cefnogi cenhadaeth y sector addysg uwch i wireddu potensial pob aelod staff a phob myfyriwr beth bynnag yw ei hil, rhyw, anabledd, gogwydd rhywiol, crefydd neu oedran, er lles yr unigolion hyn, y sefydliadau addysg uwch, a chymdeithas. Sefydlwyd yr UHC yn 2001 i hybu cydraddoldeb ar gyfer staff a gyflogir yn y sector addysg uwch ac ehangwyd ei rôl yn 2006 i gynnwys materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer myfyrwyr yn ogystal â staff. Cyllidir yr Uned gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Prifysgolion y DU, GuildHE, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, ac Adran Cyflogaeth a Dysgu Gogledd Iwerddon. Hefyd mae Cyngor Cyllido’r Alban yn cyllido’r Uned i gydweithio ag Equality Forward yn yr Alban.

