Skip to page content

Cynllun a chynllun gweithredu cydraddoldeb,

ac adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb CCAUC

Yn 2008, cyhoeddasom un cynllun cydraddoldeb i gwmpasu ein holl weithgareddau cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n manylu ar ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac yn rhoi disgrifiad eglur i’n staff a’n rhanddeiliaid o’n gwaith ar gydraddoldeb yn y sector addysg uwch yng Nghymru ac yn CCAUC.

Polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae ein polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn nodi ymrwymiad CCAUC i gyfle cyfartal a’n haddewid i drin pob aelod staff, ac aelod staff posibl, yn deg ac ystyriol. Mae hefyd yn nodi ein disgwyliadau o ran gwerthoedd ac ymddygiad y staff. Mae ein cynllun cydraddoldeb yn dangos sut yr ydym yn bwriadu datblygu’r disgwyliadau hyn.

Cynllun cydraddoldeb

Daeth ein cynllun cydraddoldeb ar gyfer 2008-2010 â’n cynlluniau cydraddoldeb a chynlluniau gweithredu ar gyfer anabledd, rhyw a hil ynghyd, a chynhwyswyd gwybodaeth am ein gwaith datblygu ym meysydd oedran, crefydd a chred, gogwydd rhywiol, a chydraddoldeb yn gyffredinol. Er bod y gwahanol linynnau o ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn debyg mewn sawl ffordd, roedd hefyd gwahaniaethau pwysig o ran y rhwymedigaethau statudol yr oedd angen cwrdd â hwy. Amcan CCAUC oedd cydlynu ei waith ym maes cydraddoldeb ble bynnag yr oedd modd – yn enwedig er mwyn hybu ymagwedd unedig, hwyluso gweithio ar draws llinynnau, ac ymdrin ag amryfal hunaniaethau. Sicrhawyd bod gan bob llinyn cydraddoldeb ei hunaniaeth ei hun o fewn y cynllun cydraddoldeb a chynhwyswyd adroddiad ar wahân ar bob llinyn yn ein hadroddiadau blynyddol.

Byddwn yn cysylltu pob fersiwn newydd o’n cynllun cydraddoldeb yn y dyfodol â'n Strategaeth Gorfforaethol.

Gan y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb penodol yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru cyn bo hir, byddwn yn ymestyn ein cynllun cydraddoldeb a chynllun gweithredu ar gyfer 2008-2010 i 2011. Drwy gydol 2011 byddwn yn ymgynghori â staff a rhanddeiliaid wrth baratoi ar gyfer ein cynllun cydraddoldeb newydd, a gyhoeddir yn Ebrill 2012. Cysylltwch â ni yn equality@hefcw.ac.uk os hoffech gymryd rhan yn ein hymarferion ar gyfer rhanddeiliaid.

Cynllun Cydraddoldeb cyfunol cyntaf CCAUC, yn cwmpasu'r cynfod 2008-10 (Fersiwn Saesneg)


Cynllun gweithredu

Mae ein cynllun gweithdredu cydraddoldeb yn manylu ar y gweithgareddau yr ydym wedi’u cynllunio mewn perthynas â’n dyletswyddau cydraddoldeb ym meysydd hil, anabledd a rhyw. Cynhwysir copi ar ddiwedd ein hadroddiad blynyddol a chynhwysir diweddariadau rheolaidd ar bwyntiau gweithredu drwy gydol y flwyddyn yn y cynllun gweithredu llawn.

Mae'r cynllun gweithredu ar gyfer 2009 a'r cynllun gweithredu drafft ar gyfer 2010 ar gael drwy ebostio equality@hefcw.ac.uk.


Adroddiad blynyddol

Mae ein hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn crynhoi gweithrediad cynllun cydraddoldeb a chynllun gweithredu CCAUC, ac yn adrodd ar weithgareddau cydraddoldeb ac amrywiaeth allweddol eraill.

Ym mis Ebrill 2010, cafodd y ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth ym meysydd anabledd, rhyw a hil ei diddymu a’i disodli gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol yn destun ymgynghoriad o hyd.

Adroddiad Blynyddol 2010

Gall y wybodaeth sydd ar ein gwefan gael ei darparu mewn fformatau hygyrch drwy wneud cais, gan gynnwys CD electronig a sain, a phrint mawr:  equality@hefcw.ac.uk.

Skip to top of page or to page menu