Cyfrifo niferoedd mwyaf o fyfyrwyr
O 2011/12, bydd y niferoedd o israddedigion amser-llawn ym mhrifysgolion Cymru yn cael eu rheoli am y tro cyntaf. Mae’r dudalen hon yn dangos sut mae’r ffigurau hyn ar gyfer Cymru wedi cael eu rhannu rhwng y sefydliadau, a sut maent hwy wedi cael eu cyfrifo.
Hysbyswyd y sefydliadau o’n bwriad i sefydlu uchafswm ar gyfer y niferoedd o israddedigion amser-llawn yng nghylchlythyr CCAUC W10/11HE, Establishment of a ceiling in full-time undergraduate student numbers from 2011/12.
Cafodd sefydliadau unigol wybod am y niferoedd mwyaf o fyfyrwyr y gallent eu recriwtio yng nghylchlythyr CCAUC W10/33HE, Guidance on the management of full-time undergraduate student numbers from 2011/12, ac mewn e-hebiaeth wedi hynny.
O ganlyniad i ddatblygu strategaeth ranbarthol ym mis Mawrth 2011, mae’r ffigurau hyn wedi cael eu diweddaru (gweler cylchlythyr CCAUC W11/03HE, Regional redistribution exercise 2011/12). Gwnaed diweddariadau pellach o ganlyniad i ailddosbarthu ym mis Medi 2011 (gweler cylchlythyr CCAUC W11/30HE Redistribution Exercise 2011/12).
Mae cylchlythyr CCAUC W11/41HE Control of student numbers: final numbers and guidance for 2011/12 and future arrangements, rhoi’r trefniadau terfynol ar gyfer 2011/12 a gwybodaeth am drefniadau ar gyfer 2012/13 a thu hwnt.
Mae’r llyfr gwaith Excel isod yn dangos y niferoedd mwyaf o fyfyrwyr ar ôl eu hailgyfrifo a’r dull a ddefnyddiwyd i’w cyfrifo. (Saesneg yn unig)
Niferoedd mwyaf wedi’u hailgyfrifo a’r dull cyfrifo

