Skip to page content

Arweiniad ar ddata’r AYAU (HESA)

Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU) yw’r asiantaeth swyddogol sy’n casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth feintiol am addysg uwch yn y DU.

Bydd yr AYAU yn casglu data ar ein rhan sy’n ymwneud â:
  • gweithgaredd myfyrwyr
  • cyllid
  • y rhyngweithiad rhwng busnes addysg uwch a’r gymuned
  • staff mewn SAUau
Defnyddiwn y data hyn yn CCAUC ar gyfer:
  • cyfrifo dyraniadau cyllid
  • monitro yn erbyn targedau Ymgeisio’n Uwch, cyfle cyfartal a darpariaeth hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA)
  • cyhoeddi
  • cyfrannu at bolisi
Gofynion Data Addysg Uwch

Mae’r cylchlythyr ar ofynion data AU yn hysbysu’r sefydliadau o’r data AU a ddefnyddiwn at y dibenion uchod. Mae’n amlinellu’r meysydd a meini prawf a ddefnyddiwn i dynnu data’r AYAU ac ym mha gyd-destun y defnyddir y data.

cylchlythyr ar ofynion data AU 2010/11

Gwybodaeth ac arweiniad pellach

Gellir cael arweiniad penodol ar lenwi ffurflenni data’r AYAU ar eu gwefan neu drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Arweiniad pellach ar yr AYAU

Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch – Busnes a’r Gymuned (HEBCIS)

Mae'r ddogfen hon yn cynnig arweiniad ar ddychwelyd data i'r arolwg HEBCI ar gyfer 2005/06 (saesneg yn unig).

HEBCIS 2005/06

Skip to top of page or to page menu