Data a gesglir gan CCAUC
Mae’r tîm ystadegau’n casglu data gan sefydliadau AU a cholegau AB yng Nghymru drwy gyfrwng nifer o arolygon data:
- yr arolwg ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES)
- yr arolwg monitro diwedd blwyddyn (EYM) o gofrestriadau addysg uwch
- yr arolwg gweithgarwch ymchwil (RAS)
- y cylchlythyr ceisiadau am ragolygon a thargedau Ymgeisio’n Uwch
- yr ymarfer ailddosbarthu
Anfonir yr arolygon data at gysylltiadau data enwebedig yn y sefydliad ac maent hwy ar gael isod hefyd. [Saesneg yn unig]
Mae’r arolwg HESES yn casglu data agregedig myfyrwyr i’n galluogi ni i ddyrannu arian ar gyfer addysgu ac i gael arwydd cynnar o niferoedd myfyrwyr am y flwyddyn academaidd berthnasol.
Mae’r arolwg EYM yn casglu data agregedig myfyrwyr i’n galluogi ni i gyfrif newidiad o ran ariannu lle nad yw sefydliadau wedi recriwtio hyd at y niferoedd llawn y derbyniant arian ar eu cyfer ac i sefydlu’r niferoedd terfynol ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.
Mae’r Arolwg Gweithgarwch Ymchwil yn casglu gwybodaeth am fyfyrwyr ymchwil i’w defnyddio wrth gyfrif cyllid ar gyfer ymchwil.
Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau AU gyflwyno rhagolygon o niferoedd o fyfyrwyr a staff.
Mae’r cylchlythyr hwn yn egluro sut y gall Sefydliadau Addysg Uwch a Cholegau Addysg Bellach a gyllidir yn uniongyrchol, ailddosbarthu gwerthoedd credyd wedi’u cyllido. Gwahoddir i'r sefydliadau gyflwyno cynigion ar sut yr hoffent ailddosbarthu gwerthoedd credyd wedi’u cyllido.
Cysylltwch â ni am gylchlythyrau blaenorol neu arweiniad ar 029 2068 2243 neu e-bost hestats@hefcw.ac.uk.

