Cyfrifiadau cyllido
Dosberthir cyfran helaeth o’n cyllid yn grantiau bloc i’r sefydliadau, wedi’i ddyrannu yn ôl fformiwlâu, sy’n cymryd ffactorau amrywiol i ystyriaeth, gan gynnwys recriwtio mewn categorïau pwnc academaidd, modd a lefel, a faint o ymchwil o ansawdd da y mae’r sefydliad yn ymgymryd ag ef.
Rydym yn gweithredu tri dull cyllido:- Dull Cyllido Addysgu
- Dull Cyllido Ymchwil - QR
- Dull Cyllido Ymchwil Ôl-raddedig
Cyhoeddwyd y cylchlythyr cyllido Grant Rheolaidd for 2010/11 (W10/10HE) (Saesneg yn unig) ym mis Mawrth 2010. Mae'n disgrifio sut y caiff y grant rheolaidd dros addysgu, hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig ac am ansawdd ymchwil ar gyfer y flwyddyn academaidd ei ddosbarthu'n gyffredinol i'r sefydliadau unigol.
Yn yr adran hon rhoddir gwybodaeth am y data a’r fethodoleg a ddefnyddir o fewn y tri dull cyllido uchod. Gallwch ddefnyddio’r cysylltau ar y dde i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y fethodoleg a’r polisïau sy’n gysylltiedig â chyllido.
Mae model Excel ar gael i ddangos sut mae'r fethodoleg gyllido di-cwota yn gweithio (Saesneg yn unig):
Model Excel (taenlen MS Excel)
Disgrifir data'r AYAU (HESA) a LLWR a ddefnyddir i wneud dyraniadau cyllid yn y cylchlythyr Gofynion data addysg uwch2008/09 (W09/12HE) (Saesneg yn unig).
Gofynion data addysg uwch 2008/09Atodir isod yr algorithmau'n ymwneud â thynnu data o'r fath o gofnod myfyrwyr 2007/08 yr AYAU a ddefnyddir i gyfrifo'r taliadau premiwm ehangu mynediad, anabledd a chyfrwng Cymraeg a'r dyraniadau'r pen a dyraniadau ymchwil ôl-radd ar gyfer 2009/10
Seilir yr algorithmau ar fersiwn symledig o'r cod SAS a ddefnyddir gan CCAUC i dynnu'r data.
Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cyfrif yn gywir, gellir cymhwyso meini prawf pellach, yn ychwanegol at y nifer a ddisgrifir yn yr algorithmau. (Saesneg yn unig).
Codau post golud isel sy'n gymwys ar gyfer cyllid ehangu mynediad (.txt)
Codau post Cymunedau'n Gyntaf sy'n gymwys ar gyfer cyllid ehangu mynediad (.txt)
Atodir isod yr algorithmau'n ymwneud â thynnu data o'r fath o gofnod myfyrwyr 2007/08 yr LLWR a defnyddir i gyfrifo'r taliadau premiwm ehagu mynediad, anabledd a chyfrwng Cymraeg a'r dyraniadau'r pen a dyraniadau ymchwil ôl-radd ar gyfer 2009/10.
Seilir yr algorithmau ar fersiwn symledig o'r cod SAS a ddefnyddir gan CCAUC i dynnu'r data.
Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cyfrif yn gywir, gellir cymhwyso meini prawf pellach, yn ychwanegol at y nifer a ddisgrifir yn yr algorithmau. (Saesneg yn unig)
Codau post golud isel sy'n gymwys ar gyfer cyllid ehangu mynediad (.txt)
Codau post Cymunedau'n Gyntaf sy'n gymwys ar gyfer cyllid ehangu mynediad (.txt)
Rhoddir gwybodaeth isod am dynnu a chyfrifo cyllid Ymchwil o Ansawdd (QR) a chyllid hyfforddiant Ymchwil Ôl-radd (YOR)

