Casglu data a chyfrifo cyllid
Rhoddir gwybodaeth i ni gan y sefydliadau addysg uwch a bellach drwy gyfrwng nifer o arolygon data a cheisiadau am wybodaeth.
Defnyddir y wybodaeth hon at y dibenion a ganlyn:- cyfrifo dyraniadau cyllid
- monitro cynnydd tuag at y targedau Ymgeisio’n Uwch
- monitro cyfle cyfartal
- monitro darpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- cyhoeddi gwybodaeth ar y sector AU yng Nghymru
- cyfrannu at bolisi
Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA) a Llywodraeth Cymru hefyd yn casglu data unigolyddol am fyfyrwyr ar ein rhan.
Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â chasglu data a defnyddio’r data a gadwn a ddarparir gan MIS neu gysylltiadau data yn y sefydliadau.

