Archwiliad o ddata AU
Archwilir y data a ddefnyddir gan CCAUC i gyfrifo’r cyllid a ddyrennir i sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol.
Mae proses newydd ar gyfer archwilio data am gyllid addysg uwch wedi cael ei chyflwyno yn 2006/07. Dibynnir fwy ar waith archwilio mewnol y sefydliadau eu hunain, a chynhelir archwiliadau allanol gan archwilwyr allanol a benodir gan CCAUC, a hynny o leiaf bob pum mlynedd.
Cyflwynodd Cylchlythyr W06/23HE (Saesneg yn unig) y cynigion cychwynnol ar gyfer y broses newydd a gwahoddwyd y sefydliadau i roi eu barn am y newidiadau arfaethedig.
Audit of Higher Education Funding Data – Proposed New Process (W06/23HE)
Cadarnhaodd Cylchlythyr W07/17HE (Saesneg yn unig) y broses derfynol newydd.
Audit of Higher Education Funding Data – New Process for 2007 (W07/17HE)
Caiff arweiniad ar gyfer archwilwyr mewnol ac allanol ei gyhoeddi bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr arweiniad presennol ar gyfer archwilwyr mewnol yng Nghylchlythyr W07/27HE. (Saesneg yn unig)
Guidance for Internal Auditors
Y canllawiau diweddaraf ar gyfer archwilwyr allanol a benodwyd gan CCAUC cael eu lawrlwytho o’r cyswllt isod. (Saesneg yn unig)
Guidance for External Auditors 2008/09
Gellir cael arweiniad ar y broses archwilio flaenorol, lle y cafodd archwiliad allanol blynyddol ei wneud gan archwilwyr a benodwyd gan sefydliadau, gan y tîm ystadegau ar 029 2068 2243 neu drwy e-bostio hestats@hefcw.ac.uk.

