Cyhoeddiadau
Ein nod yw bod mor agored â phosibl am ein gweithgareddau, gan roi gwybod i’r sector addysg uwch (AU) yng Nghymru am ein penderfyniadau drwy gyfrwng cylchlythyrau a newyddlenni, a cheisio barn ar amrywiaeth eang o faterion mewn dogfennau ymgynghori.
Ar y tudalennau hyn, byddwch yn darganfod:- cylchlythyrau CCAUC, sy’n rhoi gwybodaeth i neu’n ceisio gwybodaeth gan y sector AU yng Nghymru
- y dogfennau corfforaethol a gynhyrchwn, megis ein Hadroddiad Blynyddol a’n Strategaeth a Chynllun Corfforaethol
- adroddiadau pwysig gan neu a gomisiynwyd gan CCAUC dros y blynyddoedd
- ein hymgynghoriadau, a’n hymatebion ein hunain i ymgynghoriadau allanol
- ein cynllun cyhoeddi, sy’n amlinellu’r wybodaeth yr ydym yn ymrwymo i’w darparu at ddefnydd y cyhoedd
Gellir gwneud cais i dderbyn y wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys CD electronig, CD awdio, Braille a phrint mawr.
Ebostiwch info@hefcw.ac.uk am gopïau papur o'r dogfennau ar ein gwefan.

