Adroddiadau ac astudiaethau allanol
Byddwn yn comisiynu cyrff eraill i wneud ymchwil neu i lunio adroddiadau ar bynciau neilltuol er mwyn llywio polisi neu ddarparu arweiniad ar gyfer y sector addysg uwch (AU) yng Nghymru. Gwnawn hyn weithiau gyda chyrff eraill megis cyrff cyllido eraill y DU.
- Costau Cymharol Gwaith Ymchwil
- Hydref 2011 (Adroddiad yn Saesneg)
- Mae'r adroddiad hwn, a gomisiynwyd ar y cyd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU, yn amlinellu methodoleg newydd ar gyfer cyfrifo'r gost gymharol o ymgymryd â gwaith ymchwil mewn pynciau gwahanol. Mae'n defnyddio data a ddarparwyd gan yr Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio (TRAC). Rydym yn bwriadu defnyddio canlyniadau'r astudiaeth wrth gynnal unrhyw adolygiad o'n dull cyllido ymchwil y byddwn yn ymgymryd ag ef o bosibl yn dilyn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
- Effaith myfyrwyr Rhyngwladol ac UE yng Nghymru
- Ebill 2011 (Adroddiad yn Saesneg)
- Edrychodd yr astudiaeth hon ar y buddion economaidd tymor-hir ehangach y mae myfyrwyr rhyngwladol ac UE yn dod â hwy i Gymru, a dangosodd bwysigrwydd myfyrwyr tramor i brifysgolion Cymru, sydd wedi bod yn un o nodweddion amlycaf strategaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer AU, gan gynnwys yn Er Mwyn Ein Dyfodol. Nododd yr adroddiad, a baratowyd gan Oxford Economics ar ran Consortiwm Rhyngwladol Cymru, yn glir pam y mae myfyrwyr tramor mor bwysig i Gymru, yn ddiwylliannol, yn economaidd ac o ran llunio perthnasoedd tymor-hir.
- Gwerthusiad o Effeithiolrwydd y Cysylltiadau rhwng Sefydliadau Addysg Uwch (AU) a’r Cynghorau Sgiliau Sector yng Nghymru
- Gorffennaf 2010 (Adroddiad yn Saesneg)
- Yn yr adroddiad hwn ceir dadansoddiad o hyd a lled ac effeithiolrwydd y cysylltiadau rhwng sefydliadau AU a Chynghorau Sgiliau Sector yng Nghymru. Mae’n cynnwys enghreifftiau o arfer da a meysydd lle y mae cynnydd wedi cael ei wneud, ond hefyd yn rhestru’r rhwystrau i gydweithio mwy effeithiol.
- Adroddiad Terfynol Gwerthusiad Graham
- Rhagfyr 2009 (Adroddiad yn Saesneg)
- Dadansoddodd yr adroddiad hwn effaith y Cyllid Ychwanegol ar gyfer Myfyrwyr Rhan-Amser. Cafodd y cyllid ei ddyrannu i’r sector yn sgil cyhoeddi Adolygiad Graham yn 2006 ac roedd ar gael i ddechrau am gyfnod o dair blynedd o 2007/08 hyd 2009/10. Roedd parhad y cyllid yn amodol ar ganlyniad yr adolygiad hwn.
- Gwerthusiad o Gronfa Trydedd Genhadaeth CCAUC 2004/05 i 2006/07
- Hydref 2009 (Adroddiad yn Saesneg)
- Crynodeb gweithredol yn Gymraeg
- Cronfa Buddsoddi mewn Ymchwil Gwyddonol: adolygiad o rownd 2 a’r manteision ehangach
- Mai 2009 (Adroddiad yn Saesneg)
- Adolygiad drwy’r DU gyfan oedd hwn a gomisiynwyd gan yr holl gyrff cyllido.
- Y Cyd-Gytundeb ar Dlodi Plant
- Mawrth 2009 (Adroddiad yn Saesneg)
- Amcan y Cyd-Gytundeb yw dangos cytundeb ar lefel uchel gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff eraill i ddilyn y nod cyffredin o ddileu tlodi plant.
- Y Project Ethnigedd, Rhyw ac Ennill Gradd
- Ionawr 2008 (Adroddiad yn Saesneg)
- Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r canlyniadau ymchwil a datblygiad o dan y Project Ethnigedd, Rhyw ac Ennill Gradd yr ymgymerwyd ag ef gan yr Academi Addysg Uwch a’r Uned Her Cydraddoldeb rhwng 2007 a 2008.
- Gwerthusiad o’r Gronfa Datblygu Gallu Ymchwil
- Medi 2006 (Adroddiad yn Saesneg)
- Gwerthusiad o un o gynlluniau ymchwil cynharach y Cyngor, sef y Gronfa Datblygu Gallu Ymchwil.
- Graddedigion Cymru a’u Swyddi: Cyflogaeth a Chyflogadwyedd yng Nghymru - cynhyrchwyd gan IES a CCAUC
- Awst 2006 (Adroddiad cryno, uchod.)
- Yn ystod 2005, contractiodd CCAUC y Sefydliad er Astudiaethau Cyflogaeth i gynnal astudiaeth i hysbysu sefydliadau addysg uwch (SAUau) a llunwyr polisi allweddol eraill yng Nghymru ynghylch y farchnad lafur i raddedigion yng Nghymru.
- Adroddiad llawn (Saesneg yn unig)

