Skip to page content

Archif

  • Hydref 2011 (Adroddiad yn Saesneg)
  • Mae'r adroddiad hwn, a gomisiynwyd ar y cyd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU, yn amlinellu methodoleg newydd ar gyfer cyfrifo'r gost gymharol o ymgymryd â gwaith ymchwil mewn pynciau gwahanol. Mae'n defnyddio data a ddarparwyd gan yr Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio (TRAC). Rydym yn bwriadu defnyddio canlyniadau'r astudiaeth wrth gynnal unrhyw adolygiad o'n dull cyllido ymchwil y byddwn yn ymgymryd ag ef o bosibl yn dilyn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
    • Ebill 2011 (Adroddiad yn Saesneg)
    • Edrychodd yr astudiaeth hon ar y buddion economaidd tymor-hir ehangach y mae myfyrwyr rhyngwladol ac UE yn dod â hwy i Gymru, a dangosodd bwysigrwydd myfyrwyr tramor i brifysgolion Cymru, sydd wedi bod yn un o nodweddion amlycaf strategaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer AU, gan gynnwys yn Er Mwyn Ein Dyfodol. Nododd yr adroddiad, a baratowyd gan Oxford Economics ar ran Consortiwm Rhyngwladol Cymru, yn glir pam y mae myfyrwyr tramor mor bwysig i Gymru, yn ddiwylliannol, yn economaidd ac o ran llunio perthnasoedd tymor-hir.
    • Rhagfyr 2009 (Adroddiad yn Saesneg)
    • Dadansoddodd yr adroddiad hwn effaith y Cyllid Ychwanegol ar gyfer Myfyrwyr Rhan-Amser. Cafodd y cyllid ei ddyrannu i’r sector yn sgil cyhoeddi Adolygiad Graham yn 2006 ac roedd ar gael i ddechrau am gyfnod o dair blynedd o 2007/08 hyd 2009/10. Roedd parhad y cyllid yn amodol ar ganlyniad yr adolygiad hwn.
    • Mawrth 2009 (Adroddiad yn Saesneg)
    • Amcan y Cyd-Gytundeb yw dangos cytundeb ar lefel uchel gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff eraill i ddilyn y nod cyffredin o ddileu tlodi plant.
    • Ionawr 2008 (Adroddiad yn Saesneg)
    • Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r canlyniadau ymchwil a datblygiad o dan y Project Ethnigedd, Rhyw ac Ennill Gradd yr ymgymerwyd ag ef gan yr Academi Addysg Uwch a’r Uned Her Cydraddoldeb rhwng 2007 a 2008.
    Skip to top of page or to page menu