Arolwg rhanddeiliaid allanol
I gyflawni ein cenhadaeth, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth effeithiol i’n rhanddeiliaid a bod ein gweithrediadau mewnol a’n perthnasoedd â’r sector addysg uwch yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid allanol eraill yn cael eu cynnal gan gyfathrebiadau clir, hygyrch a strategol.
Er mwyn asesu effeithiolrwydd ein gwasanaeth, a pha mor dda y mae ein perthnasoedd yn gweithio, comisiynodd CCAUC ei arolwg cyntaf erioed o randdeiliaid a phartneriaid yn yr hydref 2007.

