Ehangu mynediad
Cynyddu’r cyfleoedd i bobl o gefndiroedd amrywiol elwa o addysg uwch (AU) yw diben ehangu mynediad.
Ein nod yw gwella mynediad i addysg uwch i’r nifer sydd a'r gallu i elwa arni. Rydym yn annog sefydliadau addysg uwch Cymru i ddenu myfyrwyr o bob oedran ac o bob rhan o’r gymuned.
Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys:- cymorth ariannol ar gyfer strategaethau ehangu mynediad sefydliadau addysg uwch
- cydlynu Ymgyrraedd yn Ehangach, cynllun mawr sydd â’r nod o wneud addysg uwch yn ddewis go iawn i lawer mwy o bobl yng Nghymru
- hybu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth leol drwy gyllido cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach
- cefnogi myfyrwyr rhan-amser drwy ddyrannu cyllid i sefydliadau addysg uwch i’w galluogi i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr cymwys
Caiff perfformiad y sector, wrth ehangu mynediad ei fesur bob blwyddyn yn ôl dangosyddion perfformiad AU y DU a thargedau ehangu mynediad yn ein strategaeth gorfforaethol.

