Skip to page content

Y cynllun Ymgyrraedd yn Ehangach

Sefydlodd CCAUC y cynllun Ymgyrraedd yn Ehangach yn 2002 i ddymchwel y rhwystrau canfyddedig ac i ehangu’r mynediad at ddysgu. Mae’r cynllun Cymru-gyfan yn hybu cymdeithas gynhwysol a gwella sgiliau er lles yr economi.

Nod Ymgyrraedd yn Ehangach yw cynyddu cyfranogiad grwpiau a chymunedau yng Nghymru mewn addysg uwch drwy godi dyheadau, a chreu cyfleoedd astudio newydd a llwybrau dysgu i addysg uwch. Mae’n ymgysylltu â phedwar prif grwp o bobl o bob oed sydd ar hyn o bryd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ar gyfer dau o’r grwpiau - mae’r targedau ar gyfer myfyrwyr anabl a chymunedau du ac ethnig lleiafrifol i’w cytuno:

Pobl sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf

Pobl sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Sefydlwyd pedair Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach i gydlynu gweithgareddau yng Ngogledd Cymru, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru, a sicrhau y defnyddir sgiliau lleol i ddarparu cyfleoedd dysgu perthnasol i’r bobl leol.

Mae’r holl sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru yn aelodau o bartneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach. Mae partneriaid rhanbarthol eraill yn cynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, y sector gwirfoddol, y Brifysgol Agored yng Nghymru a Gyrfa Cymru.

Skip to top of page or to page menu