Skip to page content

Darpariaeth ran-amser

Mae cyrsiau rhan-amser yn allweddol o ran helpu pobl i ennill cymwysterau galwedigaethol, ehangu mynediad i addysg uwch (AU), a chryfhau cysylltiadau â chyflogwyr. Rhoddwn gyllid i sefydliadau addysg uwch (SAUau) i helpu myfyrwyr rhan-amser yn ariannol ac ar gyfer gweithgareddau a chynlluniau sy’n ehangu mynediad i AU i fyfyrwyr rhan-amser.

Cynllun hepgor ffioedd i israddedigion rhan-amser CCAUC

Mae’r cynllun hepgor ffioedd i israddedigion rhan-amser yn cynnig dileu ffioedd i fyfyrwyr sy’n ddi-waith ac yn chwilio am waith neu sy’n derbyn budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau. Ei nod yw bod yn gyfrwng ar gyfer mynd i’r afael ag allgau cymdeithasol a helpu mwy o bobl i ennill cymwysterau galwedigaethol. Fel y cyfryw, bwriedir i’r cynllun gyfrannu at ehangu mynediad i grwpiau dan anfantais, megis pobl sy’n gadael gofal, a chynyddu cyfraddau cadw a chyflawniad.

Mae’r cynllun yn rhan o becyn o fesurau ar gyfer ehangu mynediad i addysg uwch. Bydd yn gynllun parhaus sy’n annibynnol ar y cynlluniau presennol a gynigir gan sefydliadau neu gyrff eraill, er enghraifft, cynlluniau a gyllidir o adnoddau cyffredinol neu gronfeydd caledi sefydliadau.

Bydd myfyrwyr unigol yn gwneud ceisiadau uniongyrchol i sefydliadau i hepgor ffioedd a bydd CCAUC yn rhoi grantiau i’r sefydliadau i’w galluogi i gynnig cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr cymwys.

Cyllid Ychwanegol ar gyfer Myfyrwyr Rhan-Amser

Roedd Adolygiad Graham, a gyhoeddwyd yn 2006, yn asesu astudiaeth ac addysg uwch rhan amser yng Nghymru. Yn benodol, roedd yr adolygiad yn archwilio i'r ffioedd cyfredol a'r trefniadau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a'r effeithiau posibl pe bai'r system hon yn cael ei newid.

Ar ôl cyhoeddi'r adolygiad, sefydlodd Llywodraeth Cymru weithgor a ddaeth i'r casgliad y dylid darparu cyllid ychwanegol er mwyn ehangu mynediad a chryfhau darpariaeth ran amser o fewn sefydliadau, a chryfhau cysylltiadau â chyflogwyr. O 2007/08 hyd at 2010/11 darparodd CCAUC ddyraniadau blynyddol er mwyn cefnogi'r ddau faes hwn, a ddaeth i gyfanswm o £25.392 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.

O 2011/12 ymlaen, penderfynwyd y dylai sefydliadau ddefnyddio'u cyllid Arloesi ac Ymgysylltu ac Ehangu Mynediad gan CCAUC er mwyn parhau â'r gweithgareddau hyn neu i ymgysylltu â meysydd newydd o gymorth rhan amser.  

Skip to top of page or to page menu