Cyllido a chynlluniau
Mae prifysgolion yn cael cyllid ar gyfer ehangu mynediad i godi dyheadau a sgiliau addysgol, hyrwyddo astudio lefel AU a gwella cyfraddau cadw myfyrwyr.
Rydym yn rhoi cyllid ychwanegol - premiwm ehangu mynediad - yn ein grant addysgu blynyddol i sefydliadau addysg uwch (SAUau) i gydnabod y gost ychwanegol o recriwtio myfyrwyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Dyraniadau addysgu 2009/10:Cylchlythyr W09/08HE (Saesneg yn Unig)
Rydym yn annog sefydliadau addysg uwch (SAUau) i gynllunio eu gweithgareddau ehangu mynediad drwy lunio strategaethau ehangu mynediad tair-blynedd. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cefnogi myfyrwyr anabl.
Rydym yn gweithredu Cronfa Ehangu Mynediad i gefnogi’r strategaethau ac mae’r SAUau yn gwneud adroddiad blynyddol i ni ar eu cynnydd.
Mae Cylchlythyr W09/16HE yn rhoi gwybodaeth am ddatblygiad strategaethau ehangu mynediad y sefydliadau yng nghyd-destun yr Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’n nodi’r dyraniadau a wneir i’r sefydliadau yn 2009/10 i’w helpu i weithredu eu strategaethau ehangu mynediad ac mae’n cynnig arweiniad cryno ar ein disgwyliadau o ran adrodd ar gynnydd a gwariant drwy gyfrwng y broses fonitro flynyddol.
Pan gyflwynwyd ffioedd amrywiol yng Nghymru yn 2007/08, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n rhaid i Gynlluniau Ffioedd pum-mlynedd, a oedd yn gyson ag egwyddorion Ymgeisio’n Uwch, gael eu cyflwyno gan bob darparwr addysg uwch yng Nghymru ar gyfer cyfran o’r incwm ychwanegol hwn.
Gofynnwyd i CCAUC adolygu ac asesu’r holl gynlluniau ar sail arweiniad a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd i’r sefydliadau gyfrif am eu defnydd o 30% o gyfanswm yr incwm newydd ar sail amcangyfrifon ariannol.
Gofynnwyd i’r sefydliadau roi manylion gwariant a gweithgareddau mewn tri maes:- y buddsoddiad yr oedd ei angen ar gyfer y Cynllun Bwrsarïau Cenedlaethol
- darpariaeth ehangu mynediad
- hybu darpariaeth addysg uwch yng Nghymru
Caiff cynlluniau ffioedd eu monitro ym mis Tachwedd bob blwyddyn yn erbyn targedau a lefelau gwariant y cytunwyd arnynt fel rhan o broses y Datganiad Monitro Blynyddol.

