Skip to page content

Addysg uwch cyfrwng Cymraeg

Mae cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan arbennig a phwysig o addysg uwch yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i wefan Mantais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae CCAUC yn cefnogi datblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac yn gweithio gyda’r sector i gynyddu cofrestriadau ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Mae’n Strategaeth Gorfforaethol yn cynnwys y mesur canlynol:

Bydd nifer y myfyrwyr o Gymru mewn sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n ymgymryd â rhyw elfen o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn codi o 4,667 yn 2008/09 i 5600 yn 2012/13.

Ein cyfeiriad polisi yw:
  • annog sefydliadau addysg uwch (SAUau) i fabwysiadu ymagwedd strategol at ddatblygu a chyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • galluogi cymorth a chydgysylltu canolog, a hybu datblygiadau ar y cyd

O fis Ebrill 2011 rydym yn darparu cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar i hybu a chefnogi datblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae ein cyllid hefyd yn cynnwys premiwm cyfrwng Cymraeg, neu daliad ychwanegol, i SAUau am gofrestriadau ar gyrsiau neu fodiwlau cyfrwng Cymraeg.

Rhan o waith y partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach sydd yn cyfrannu at ehangu mynediad i addysg uwch yw ysgogi galw am gyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn rhoi ein polisïau ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu cyd-destun.

Skip to top of page or to page menu