Datblygiadau'n Arwain at Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn 2001, dechreuodd CCAUC, gyda’r sefydliadau addysg uwch, ddarparu cymorth ariannol ar gyfer Uned Datblygu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg fach a fyddai’n gweithio gyda’r sector i gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Yn 2003 sefydlodd CCAUC Grŵp Llywio Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg i ddatblygu strategaeth gychwynnol yng ngoleuni dyheadau Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a nodir yn y strategaeth, Ymgeisio’n Uwch. Daeth yr aelodau o’r sector addysg uwch a chyrff eraill sydd â diddordeb mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Cafodd strategaeth y Grŵp Llywio ei chyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Hydref 2004. Cymeradwyodd Llywodraeth y Cynulliad ddyraniadau o Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio CCAUC er mwyn dechrau gweithredu’r strategaeth. Esblygodd yr Uned Datblygu yn Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg a oedd yn gyfrifol am ddarparu cymorth a chydgysylltu.
Fel rhan o’r strategaeth, ymgymerodd Arad Consulting Cyf ag astudiaeth annibynnol ar ran y sector o’r modelau posibl ar gyfer cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol. Awgrymodd model rhwydwaith, wedi’i gefnogi gan fframwaith strategol cenedlaethol.
Yn ystod 2006/07, bu CCAUC yn gweithio’n agos â’r sector addysg uwch a’i gorff cynrychiadol, Addysg Uwch Cymru (AUC), i sefydlu fframwaith strategol a chynllun datblygu cenedlaethol newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Roedd y cynllun datblygu yn ymdrin â phob agwedd sy’n dylanwadu ar y cyflenwad a’r galw ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys datblygu darpariaeth newydd, cynyddu capasiti staffio drwy gynlluniau ysgoloriaethau a chymrodoriaethau, datblygu staff a marchnata. Darparwyd arweinyddiaeth gan Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr ar lefel uwch o bob sefydliad AU. Roedd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn gweithredu o dan gonsortiwm o eiddo’r sector y mae pob SAU yn aelod ohono, a chafodd ei rôl ei chryfhau a’i hailddiffinio fel bod ei gwaith yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gefnogi’r cynllun datblygu a’r grŵp sector.
Ym mis Gorffennaf 2008 cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau y pryd hynny y byddid yn sefydlu Bwrdd Cynllunio Coleg Ffederal wedi’i gadeirio gan yr Athro Robin Williams. Ers peth amser, buasai sawl grŵp yn cynnig y dylid sefydlu Coleg Ffederal i gynnal darpariaeth addysg uwch (AU) cyfrwng Cymraeg, er na fuasai cydsyniad clir am y ffurf y gallai ei chymryd. Cyflwynodd yr Athro Williams ei adroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2009. Roedd hwn yn argymell y dylid sefydlu Coleg Ffederal fel endid cyfreithiol newydd ac annibynnol a fyddai’n gweithio gyda a thrwy’r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac a fyddai’n ymgorffori’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnwys yn Er Mwyn Ein Dyfodol, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch, ym mis Tachwedd 2009. Sefydlodd CCAUC Fwrdd Gweithredu Coleg Ffederal, dan gadeiryddiaeth Geraint Talfan Davies, a gyfarfu yn ystod 2010 i lywio’r gwaith manwl yr oedd angen ei wneud i sefydlu’r Coleg. Cafodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei gorffori’n ffurfiol fel cwmni cyfyngedig drwy warant ym mis Mawrth 2011.
