Skip to page content

Cynlluniau ysgoloriaethau a chymrodoriaethau

Mae cynyddu addysgu cyfrwng Cymraeg yn y tymor byr a’r cyflenwad posibl o staff cyfrwng Cymraeg at y dyfodol yn rhan bwysig o’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol.

Mae CCAUC yn darparu cyllid ar gyfer cynlluniau ysgoloriaethau i raddedigion a chymrodoriaethau addysgu. Mae sefydliadau addysg uwch yn ceisio drwy’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg sydd yn gweinyddu’r cynlluniau.

O dan y Cynllun ysgoloriaethau i raddedigion, mae myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd ymchwil yn ymgymryd â pheth addysgu cyfrwng Cymraeg ac yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r cymrodoriaethau addysgu yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu graddau ymchwil gael profiad o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Caiff hyd at ddeg ysgoloriaeth a chwe chymrodoriaeth eu dyfarnu bob blwyddyn. Fel amod o’r cyllid, disgwylir i sefydliadau addysg uwch greu swydd barhaol y bydd modd i ddeiliad yr ysgoloriaeth neu’r gymrodoriaeth ymgeisio amdani ar ddiwedd y cyfnod cyllido.

Skip to top of page or to page menu